Technoleg Iechyd Cymru yn ennill gwobr fyd-eang
Mae gwobr fyd-eang, fawreddog wedi cael ei dyfarnu i Technoleg Iechyd Cymru (HTW) am ei dull o werthuso effaith ymchwil i driniaeth ar gyfer MS.
Enillodd y prosiect gan HTW, a gafodd ei gyflwyno gan yr Uwch Ymchwilydd Lauren Elston, Wobr David Hailey am y Stori Effaith Orau yng nghyngres INAHTA (International Network of Agencies for Health Technology Assessment) gan 100 o’r rheini a fynychodd y digwyddiad oedd yn cynrychioli 49 o sefydliadau sy’n aelodau o INAHTA.
Mae Gwobr David Hailey am y Stori Effaith Orau yn cael ei dyfarnu i’r HTA sy’n cyflwyno’r enghraifft orau o’r effaith mae asesiad wedi’i chael, a pha wersi a ddysgwyd o’r broses.
Defnyddiodd HTW ei arfarniad diweddar o drawsblaniad bôn-gell gwaedfagol awtologaidd (AHSCT) ar gyfer sglerosis ymledol atglafychol-ysbeidiol sydd wedi’i drin yn flaenorol (RRMS), fel astudiaeth achos i ddangos sut y gwerthusodd effaith ei waith yn defnyddio’r dull Matter of Focus. Cyflwynodd y corff comisiynu Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) y pwnc i HTW, a chyhoeddwyd yr arfarniad a’r canllaw ym mis Gorffennaf 2020.
Yn ystod y broses asesu, ymgysylltodd HTW â phanel helaeth o arbenigwyr clinigol, gan gynnwys niwrolegwyr ymgynghorol, haematolegwyr ymgynghorol, academyddion a chyrff HTA eraill. Gofynnodd y sefydliad hefyd am ymgysylltiad uniongyrchol gan ddau sefydliad cleifion, a ddarparodd gyflwyniadau annibynnol i gleifion. Yn ddiweddarach, dywedodd sefydliadau cleifion bod y ffaith eu bod nhw wedi cael eu cynnwys yn y broses arfarnu yn “werthfawr iawn” a bod “pobl sy’n byw gydag MS yn cael lleisio eu barn drwy gydol y broses”.
Dywedodd Susan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn y wobr hon sy’n dangos yr effaith mae ein gwaith yn ei chael ar ansawdd gofal iechyd yng Nghymru.
“Rydym yn gwneud ein gorau glas i ateb anghenion cleifion a darparwyr gofal iechyd ym mhopeth a wnawn, ac i sicrhau ein bod yn cydweithio â rhanddeiliaid.”
Meddai Peter Groves, Cadeirydd HTW: “Rwy’n falch iawn bod HTW wedi cael ei gyhoeddi fel enillydd Gwobr David Hailey INAHTA yn 2021. Mae hyn yn adlewyrchu ansawdd y gwaith sydd wedi cael ei wneud wrth baratoi’r canllaw ar drawsblaniad bôn-gell gwaedfagol awtologaidd (AHSCT) ar gyfer sglerosis ymledol atglafychol-ysbeidiol sydd wedi’i drin yn flaenorol (RRMS), yn ogystal â’r dull cydweithredol rydym yn cymryd wrth gynnal ein gwerthusiadau. Drwy gynnwys ystod eang o randdeiliaid, rydym wedi sicrhau y bydd y canllaw hwn yn effeithiol, ac mae’n dangos y pwysigrwydd rydym yn ei roi ar weithio gyda chleifion a phartneriaid o bob rhan o’r systemau iechyd a gofal.”
Dywedodd Lauren Elston, a gyflwynodd y Stori Effaith i Gyngres INAHTA: “Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn y wobr hon gan ei bod yn cydnabod ein hymdrechion i werthuso’r effaith mae ein gwaith yn ei chael ar wella gofal pobl yng Nghymru.”
Yn sgil cyhoeddi canllaw HTW, argymhellodd Panel Blaenoriaethu WHSSC AHSCT ar gyfer RRMS fel ‘blaenoriaeth uchel’ ar gyfer cyllid. Cafodd y canllaw ei gynnwys ar wefan MS Trust ac mewn sawl erthygl newyddion ac ers hynny, mae grwpiau cleifion wedi galw am ‘gamau nesaf’ clir tuag at agor canolfannau triniaeth arbenigol yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am astudiaeth achos AHSCT yn Adroddiad Blynyddol HTW .
Mae INAHTA yn rhwydwaith rhyngwladol, sy’n cysylltu asiantaethau asesu technolegau iechyd ar draws y byd i rannu gwybodaeth a chyfnewid gwybodaeth. Mae wedi’i leoli yn y Sefydliad Economeg Iechyd yng Nghanada.