Newyddion

19 Hydref, 2022

< BACK

Mae HTW ac AWTTC yn adnewyddu memorandwm cyd-ddealltwriaeth

Mae Technoleg Iechyd Cymru a Chanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTCC) wedi adnewyddu eu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, gan addo parhau i gefnogi gwaith ei gilydd.

Mae’r ddau sefydliad wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd ers 2020, gan rannu arbenigedd a mynediad i rwydweithiau arbenigwyr.

Mae’r ddau sefydliad yn asesu technolegau iechyd; fodd bynnag, cylch gwaith AWTTC ydy arfarnu meddyginiaethau, tra bod HTW yn canolbwyntio ar dechnolegau iechyd sydd ddim yn feddyginiaethau.

Drwy’r bartneriaeth, maen nhw wedi elwa o adolygiadau gan gymheiriaid, a phrosesau sicrhau ansawdd i gefnogi eu swyddogaethau arfarnu. Yn y cyfamser, mae staff yn HTW ac AWTCC yn derbyn cyngor methodolegol gan eu cyfoedion.

Mae AWTTC yn darparu portffolio o wasanaethau ym meysydd therapiwteg a thocsicoleg, gan gynnwys arfarnu meddyginiaethau. Mae ei staff yn gweithio ar asesiadau technoleg iechyd; optimeiddio meddyginiaethau, diogelwch meddyginiaethau a thocsicoleg; a dadansoddi data.

Mae gan y sefydliad gynrychiolaeth ar nifer o grwpiau Technoleg Iechyd Cymru, gan gynnwys y Panel Arfarnu a’r Grŵp Cyfeirio Drws Ffrynt.

Meddai Karen Samuels, Pennaeth Arfarnu Technoleg Iechyd, Rheoli Meddyginiaethau a Chyfarwyddwr Rhaglen AWTTC: “Yn AWTTC, ein hethos yw gweithio’n rhagweithiol i ddarparu ystod o wasanaethau sy’n cefnogi’r defnydd gorau o feddyginiaethau i helpu cleifion yng Nghymru.

“Mae adnewyddu’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn gan AWTTC a HTW yn estyniad o’n perthynas waith gadarn, ac yn gyfle delfrydol i ni weithio gyda’n gilydd sydd heb os, yn gwella ansawdd i gleifion Cymru.”

Ychwanegodd Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr HTW:  “Mae ein partneriaeth gydag AWTTC wedi cyflwyno manteision pwysig i bob sefydliad, gan gynnwys y cyfle i rannu gwybodaeth a phrosesau methodolegol, ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y berthynas hon.”