Mae HTW yn cyhoeddi canllawiau ar EMBS
Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw sy’n argymell y dylai byrddau iechyd ledled Cymru fabwysiadu systemau rheoli gwaed electronig (EBMS) i gefnogi trallwysiadau gwaed.
Trallwyso’r teip anghywir o waed yw un o’r ddau brif achos sy’n achosi marwolaeth drwy drallwyso.
Yn draddodiadol, mae adnabod a gwirio cleifion i sicrhau bod y trallwysiadau cywir yn cael eu rhoi i gleifion wedi cael eu gwneud ar bapur. Mae EBMS yn defnyddio codau bar ar fandiau garddwrn cleifion i gadarnhau eu hunaniaeth ac yna, yn paru’r rhain gyda’r manylion ar y pecyn gwaed i sicrhau bod y gwaed cywir yn cael ei roi.
Yn ôl ymchwil HTW, o’i gymharu â system bapur, mae EBMS yn lleihau cyfraddau gwrthod samplau a gwastraff gwaed. Fe wnaeth HTW ddarganfod hefyd, y gallai GIG Cymru arbed £1.9 miliwn dros ddwy flynedd os caiff yr EBMS ei gymhwyso i bawb sy’n cael trallwysiadau gwaed yn GIG Cymru.
I ddarllen canllaw llawn HTW ar systemau rheoli gwaed electronig, cliciwch yma: https://healthtechnology.wales/reports-guidance/systemau-rheoli-gwaed-electronig-2/?lang=cy