Mae Technoleg Iechyd Cymru cynllun gweithredu ar ofal cymdeithasol
Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu, sy’n nodi sut i addasu ei brosesau ar gyfer y sector gofal cymdeithasol.
Mae’r cynllun wedi cael ei greu yn sgîl lansio partneriaeth gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, a sefydlwyd gyda’r nod o rannu arbenigedd ynghylch sut y gall HTW ymgysylltu’n well â’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, a sicrhau bod ei ddulliau’n ateb anghenion y sector.
Drwy’r bartneriaeth, ymunodd y ddau sefydliad i gynnal cyfres o ddigwyddiadau, gan gynnwys digwyddiad bord gron ar gyfer arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol, y llywodraeth, y byd academaidd a pholisi, a gweithdy i bobl sy’n cael mynediad at ofal cymdeithasol, eu gofalwyr a gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol.
Arweiniodd y digwyddiadau at gyhoeddi dau adroddiad, yn adlewyrchu canfyddiadau’r gweithdy a’r drafodaeth bord gron, a ddefnyddiwyd i ffurfio’r cynllun gweithredu ar ofal cymdeithasol. I ddarllen yr adroddiad, cliciwch yma.
Bydd yr wybodaeth sydd yn cael ei chasglu yn ystod y ddau ddigwyddiad yn cefnogi lansio Galwad Pwnc Gofal Cymdeithasol cyntaf Technoleg Iechyd Cymru yn ddiweddarach y mis hwn, ac mae wedi arwain at adolygu gwefan HTW a dogfennau allweddol, i sicrhau bod yr iaith sydd yn cael ei defnyddio yn hygyrch i’r rheini sy’n dymuno cyflwyno pwnc.
Nod y digwyddiad bord gron a gynhaliwyd ym mis Mai oedd deall pa addasiadau y gellid eu gwneud i’r broses asesu technoleg iechyd, i’w gwneud yn fwy priodol ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Roedd rhai canfyddiadau allweddol yn cynnwys:
- Yn gyntaf, pwysleisiodd y cyfranogwyr y dylai pobl sy’n gweithio o fewn HTA fod yn ymwybodol o realiti gofal cymdeithasol, ac o’r pethau a fydd yn peri heriau. Gall y rhain fod yn gysylltiedig â darparu gofal, trosiant staffio a chysylltiadau llai datblygedig rhwng gofal cymdeithasol ac amgylcheddau ymchwil.
- Yn ail, tynnodd y cyfranogwyr sylw at y ffaith bod angen cael dull mwy hyblyg o sicrhau manteision sy’n gysylltiedig â’r bobl sy’n cael eu rhoi yng nghanol y gwasanaeth, ac i urddas a pharch, a bod galluoedd yn cael eu cipio a bod tystiolaeth fyd-eang go iawn o leoliadau ymchwil a lleoliadau sydd ddim yn ymwneud ag ymchwil yn cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau. Bydd angen ystyried hefyd sut y gall gwerthuso economaidd gefnogi asesiadau o werth yn defnyddio dulliau wedi’u haddasu.
- Yn drydydd, bydd angen gwneud ymdrech i sicrhau bod cynrychiolaeth amrywiol o leisiau o’r sector gofal cymdeithasol, i gefnogi sgyrsiau parhaus am addasiadau sy’n deillio o’r ford gron hon, ac i lywio arfarniadau ac arwain y broses o wneud penderfyniadau yn y tymor hwy.
- Yn olaf, roedd y cyfranogwyr yn glir bod yn rhaid i HTA gefnogi newid o fewn y sector gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau bod partneriaid yn cael eu cefnogi’n barhaus. Bydd angen i asiantaethau HTA ystyried sut y caiff canllawiau eu cyfleu er mwyn sicrhau ymwybyddiaeth, a dylent archwilio sut y gellir hyrwyddo a mesur mabwysiadu canllawiau.
I ddarllen adroddiad llawn y ford gron, cliciwch yma.
Roedd y gweithdy a gynhaliwyd ym mis Mai yn canolbwyntio ar ddeall p’un a oedd pobl yn teimlo eu bod yn gallu rhyngweithio â HTW, ac i archwilio pa mor hygyrch yw deunyddiau HTW sy’n wynebu’r cyhoedd, fel y wefan.
Dyma oedd rhai o’r prif ddarganfyddiadau:
- Tynnodd y cyfranogwyr sylw at y ffaith y byddai iaith fwy cynhwysol a oedd yn adlewyrchu iechyd a gofal cymdeithasol yn helpu i ddileu rhwystrau ac ystyried dull sy’n seiliedig ar gryfderau a allai fod o fudd
- Roedd pobl yn awyddus i archwilio p’un a ellid ceisio gwneud y broses i deimlo’n llai “unochrog” gyda mwy o ddeialog rhwng cynigydd y pwnc a thîm HTW, a p’un a ellid sicrhau bod cymorth ychwanegol ar gael i bobl o’r sector gofal cymdeithasol i gefnogi cyflwyno pynciau
- Hefyd, cododd cyfranogwyr y ffaith y bydd tystiolaeth yn her ym maes gofal cymdeithasol, ac y dylai HTW fod yn ymwybodol y gallai fod yn anoddach mesur canlyniadau, ac efallai y bydd angen dull wedi’i addasu.
I ddarllen adroddiad llawn y gweithdy, cliciwch yma