News & Events
Cliciwch ar y dudalen hon i gael y newyddion diweddaraf rheolaidd, gwybodaeth ynghylch digwyddiadau, a datganiadau i’r wasg.
Ebr 2023
Cyhoeddi bweltin Cyngor ar Dechnolegau Iechyd
Rydym wedi cyhoeddi’r bwletin ‘Cyngor ar Dechnolegau Iechyd’ i gefnogi gwneud penderfyniadau ar dechnolegau iechyd yn GIG Cymru. Mae’r bwletin yn rhestru cyngor a chanllawiau a gyhoeddwyd gennym ni ac asiantaethau asesu technoleg iechyd (HTA) eraill ledled y DU ac Ewrop rhwng diwedd mis Ionawr – Mawrth 2023 2022.
Maw 2023
Gwyliwch ein fideo astudiaeth achos
Rydym yn falch o gyhoeddi ein fideo astudio achos diweddaraf, sy'n disgrifio ein harfarniad o’r ddyfais monitro glwcos FreeStyle Libre, a sut y gallai hyn newid bywydau pobl sy'n byw â diabetes yng Nghymru.
Maw 2023
Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023 – Galwad Pwnc Agored
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, mae Technoleg Iechyd Cymru wedi lansio galwad pwnc agored i ddod o hyd i dechnolegau iechyd a gofal anfeddygol a allai gefnogi iechyd menywod. Mae'n gwahodd gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, datblygwyr technoleg ac aelodau'r cyhoedd i gyflwyno eu syniadau.
Maw 2023
Cefnogi datblygu Canllaw Technoleg Iechyd Cymru ar y Broses Arfarnu
Rydym wedi cynhyrchu Canllaw drafft ar y Broses Arfarnu, sy'n ceisio esbonio ein proses o arfarnu technoleg iechyd yn glir i randdeiliaid allanol. Ein nod yw cynyddu dealltwriaeth o broses arfarnu Technoleg Iechyd Cymru, ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn ein gwaith neu wrth ystyried cyflwyno technoleg iechyd neu ofal anfeddygol i’w arfarnu.
Maw 2023
Canllawiau wedi’u cyhoeddi ar ffotobiofodyliad
Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar ffotobiofodyliad ar gyfer atal a thrin mwcositis geneuol a dermatitis sy'n gysylltiedig â thriniaeth canser sy’n defnyddio ymbelydredd.
Chwef 2023
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos sut mae Cymru’n sbarduno gweledigaeth y DU ar gyfer gwyddorau bywyd
Tynnwyd sylw at bwysigrwydd Cymru i sector gwyddorau bywyd y DU mewn dwy set o ffigurau diweddar sy’n dangos perfformiad cryf mewn agweddau allweddol ar fusnesau gwyddorau bywyd yng Nghymru.
Chwef 2023
Partneriaeth rhwng HTW a Bevan Commission wedi’i hadnewyddu
Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) a Chomisiwn Bevan wedi adnewyddu eu partneriaeth, gan addo gweithio mewn partneriaeth i wella iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Chwef 2023
Penodi HTW fel Partner Cydweithredol y Ganolfan Dystiolaeth i gynnal ymchwil hanfodol i heriau iechyd a gofal cymdeithasol
Bydd HTW yn un o Bartneriaid Cydweithio Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru newydd, sydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, i roi tystiolaeth ymchwil hanfodol i weinidogion a phobl eraill sy'n gwneud penderfyniadau i fynd i'r afael â’r heriau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n wynebu Cymru
Chwef 2023
Penodi Dirprwy Gadeirydd newydd ar gyfer Panel Arfarnu Technoleg Iechyd Cymru
Mae'n bleser gennym gyhoeddi penodiad Dirprwy Gadeirydd Panel Arfarnu Technoleg Iechyd Cymru Mae Dr Andrew Champion, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gwerthuso Tystiolaeth ac Effeithiolrwydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi cael ei benodi i'r rôl.