News & Events

Cliciwch ar y dudalen hon i gael y newyddion diweddaraf rheolaidd, gwybodaeth ynghylch digwyddiadau, a datganiadau i’r wasg.

Newyddion

Chwef 2023

Lansio ymgyrch i ddod o hyd i dechnolegau iechyd a gofal i helpu i wella bywydau pobl sy’n byw gyda chanser

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi lansio galwad pwnc agored i ddod o hyd i dechnolegau iechyd a gofal anfeddygol a allai wella bywydau pobl sy'n byw gyda chanser yng Nghymru. Mae'n gwahodd gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, datblygwyr technoleg ac aelodau'r cyhoedd i gyflwyno eu syniadau erbyn 28.02.2023.

Newyddion

Chwef 2023

Hwb Gwyddorau Bywyd yn lansio arolwg rhanddeiliaid

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd wedi lansio ei arolwg rhanddeiliaid yn 2023, lle bydd yn annog adborth gan gydweithwyr yn y diwydiant, y byd academaidd, iechyd, gofal cymdeithasol ac eraill sydd â chysylltiadau â'r sector gwyddorau bywyd.  

Newyddion

Ion 2023

Adolygiad pum mlynedd ar gynnydd yn tynnu sylw at y rhagolygon ar gyfer datblygu yn y dyfodol

Mae Technoleg Iechyd Cymru yn falch o gyhoeddi ei fod wedi cyhoeddi ei adroddiad adolygu pum mlynedd sy'n tynnu sylw at ei gynnydd cryf a'i rhagolygon ardderchog ar gyfer datblygu yn y dyfodol.

Newyddion

Ion 2023

Cannllawiau a gyhoeddwyd ar therapi tynnu sylw rhithwironedd

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw ar ddefnyddio ymyriadau realiti rhithwir ar gyfer rheoli poen yn ystod triniaethau meddygol. Realiti Rhithwir ydy efelychiad sydd yn cael ei gynhyrchu gan gyfrifiadur, o amgylchedd y gellir ei arddangos trwy set ben neu sbectol. 

Newyddion

Ion 2023

Cyhoeddi bweltin Cyngor ar Dechnolegau Iechyd

Rydym wedi cyhoeddi’r bwletin ‘Cyngor ar Dechnolegau Iechyd’ i gefnogi gwneud penderfyniadau ar dechnolegau iechyd yn GIG Cymru. Mae’r bwletin yn rhestru cyngor a chanllawiau a gyhoeddwyd gennym ni ac asiantaethau asesu technoleg iechyd (HTA) eraill ledled y DU ac Ewrop rhwng diwedd mis Hydref - Rhagfyr 2022. 

Newyddion

Ion 2023

HTW a NICE yn addo parhau phartneriaeth

Mae Technoleg Iechyd Cymru a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn falch o gyhoeddi eu bod wedi llofnodi adnewyddiad o'u Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Mae hyn yn ailddatgan pwysigrwydd eu perthynas waith agos barhaus a'u bwriad i gryfhau cydweithio rhwng y ddau sefydliad. 

Newyddion

Rhag 2022

HTW yn adnewyddu Memorandwn Cyd-dealltwriaeth gyda Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru

Mae HTW wedi adnewyddu ei Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru. Mae'r ddau sefydliad wedi gweithio'n llwyddiannus mewn partneriaeth ers 2019 i gefnogi arfarnu a mabwysiadu technolegau iechyd sydd ddim yn feddyginiaethau ar gyfer systemau iechyd a gofal yng Nghymru.

Newyddion

Rhag 2022

Technoleg Iechyd Cymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 5 oed

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi dathlu ei ben-blwydd yn 5 oed gyda digwyddiad rhithwir oedd yn cynnwys siaradwyr o bob rhan o'r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol ac arloesi yng Nghymru. Mae'r sefydliad, a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2017, yn asesu technolegau iechyd a gofal nad ydynt yn feddyginiaethau, ac yn cynhyrchu canllawiau cenedlaethol ar eu defnydd yng Nghymru. Mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i letya gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Cymru, ond mae’n annibynnol ar y ddau.

Newyddion

Rhag 2022

Cyhoeddi canllawiau ar driniaeth ar gyfer wlserau traed diabetig

Mae triniaeth ar gyfer pobl sydd ag wlserau traed oherwydd diabetes wedi cael ei argymell i’w defnyddio’n rheolaidd yng Nghymru gan Dechnoleg Iechyd Cymru. Mae therapi ocsigen argroenol parhaus yn cael ei ddefnyddio i drin pobl sydd ag wlserau traed cronig a chymhleth oherwydd diabetes sydd ddim yn gwella – y rheswm unigol mwyaf pam mae pobl sydd â diabetes yn cael eu derbyn i’r ysbyty.