News & Events
Cliciwch ar y dudalen hon i gael y newyddion diweddaraf rheolaidd, gwybodaeth ynghylch digwyddiadau, a datganiadau i’r wasg.
Ebr 2022
Cyhoeddi bwletin ‘Cyngor ar Dechnolegau Iechyd’
Rydym wedi cyhoeddi’r bwletin ‘Cyngor ar Dechnolegau Iechyd’ i gefnogi gwneud penderfyniadau ar dechnolegau iechyd yn GIG Cymru. Mae’r bwletin yn rhestru cyngor a chanllawiau a gyhoeddwyd gennym ni ac asiantaethau asesu technoleg iechyd (HTA) eraill ledled y DU ac Ewrop rhwng diwedd mis Ionawr a mis Mawrth 2022.
Ebr 2022
Recordiad o’r digwyddiad Datrysiadau Digidol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru nawr ar gael
Mae recordiad o'r digwyddiad Datrysiadau Digidol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru bellach ar gael i'w weld drwy sianel YouTube yr Hwb Gwyddorau Bywyd. Ymunodd Technoleg Iechyd Cymru â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac Ecosystem Iechyd Digidol Cymru i gynnal y digwyddiad, a oedd yn archwilio cyfleoedd ar gyfer datrysiadau digidol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Ebr 2022
Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2021 Technoleg Iechyd Cymru
Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2021, sy'n disgrifio'r gwaith rydym wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i wella iechyd a gofal cymdeithasol i bobl Cymru.
Chwef 2022
Pecyn cymorth micro-gostio i fynd i’r afael â’r heriau o gyflwyno therapïau celloedd a genynnau i gleifion y GIG
Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi helpu i fynd i'r afael â'r her o gyflwyno therapïau celloedd a genynnau cost uchel i gleifion y GIG, drwy greu pecyn cymorth micro-gostio.
Chwef 2022
Digwyddiad i’w archwilio datrysiadau digidol argyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
Rydym yn ymuno â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Ecosystem Iechyd Digidol Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gynnal digwyddiad a fydd yn archwilio cyfleoedd ar gyfer datrysiadau digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Chwef 2022
Y canllaw a gyhoeddwyd: Ysgogiad magnetig trawsgreuanol i drin pobl ag iselder mawr sy’n gwrthsefyll triniaeth
Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw ar ddefnyddio symbyliad magnetig trawsgreuanol ailadroddus (rTMS) i drin iselder mawr sy'n gallu gwrthsefyll triniaeth.
Chwef 2022
Er Cof – Adrian Mironas
Gyda thristwch mawr y cyhoeddwn farwolaeth ein cyfaill a'n cydweithiwr Adrian Mironas, a fu farw ar ddydd Llun 24 Ionawr. Ymunodd Adrian â HTW fel Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd ym mis Hydref 2019, ac roedd yn aelod gwerthfawr iawn o'n tîm. Bydd yn cael ei golli'n fawr, ar lefel bersonol a phroffesiynol.
Ion 2022
HTW yn cwblhau astudiaeth ar y risg o drosglwyddo Covid-19 gan bobl wedi’u brechu
Mae adolygiad cyflym gan ymchwilwyr HTW sy'n archwilio'r risg o drosglwyddo Covid-19 o bobl wedi'u brechu yn erbyn y feirws wedi cael ei gyhoeddi. Cynhaliodd HTW yr adolygiad cyflym o dystiolaeth ar y risg o drosglwyddo SARS-CoV-2 gan bobl wedi’u brechu i bobl heb eu brechu neu wedi’u brechu, ar ran Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru (WCEC).
Ion 2022
Technoleg Iechyd Cymru yn lansio chwiliad am syniadau a allai drawsnewid gofal cymdeithasol
Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) wedi dechrau chwiliad am dechnoleg sydd â’r potensial i drawsnewid sector gofal cymdeithasol Cymru. Mae wedi lansio galwad yn gofyn i dechnolegau a fodelau o ofal a chymorth sy’n cynnig buddion i’r rheini sy’n defnyddio gofal cymdeithasol gael eu hatgyfeirio i gael eu hasesu. Mae Technoleg Iechyd Cymru, sy’n arfarnu tystiolaeth ac yn cynhyrchu canllawiau cenedlaethol i lywio mabwysiadu technolegau o fewn systemau gofal Cymru, yn gwahodd pobl sy’n crychu gofal cymdeithasol, gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol, ymchwilwyr, datblygwyr technolegau ac aelodau o’r cyhoedd i gyflwyno eu syniadau. Y dyddiad cau ar gyfer anfon ceisiadau ydy 25 Chwefror 2022.