Agor Galwad Pwnc i wella gofal yng Nghymru
Rydym wedi agor Galwad Pwnc ar Ddydd Gŵyl Dewi, ac rydym yn gofyn ichi awgrymu technolegau nad ydynt yn feddyginiaethau a allai wella iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Boed yn gomisiynwyr clinigol a darparwyr gofal rheng flaen, neu’n gleifion ac aelodau’r cyhoedd, gall unrhyw un awgrymu pwnc ar ein gwefan.
Mae ein Cadeirydd, Dr Peter Groves, wedi ysgrifennu llythyr i annog eich syniadau a’ch cyfranogiad:
Cliciwch yma i lawrlwytho’r ffeil hwn.
Gellir atgyfeirio pynciau drwy ein ffurflen ‘Awgrymu pwnc.’ Gall unrhyw un sydd eisiau cyflwyno pwnc gysylltu â ni am ragor o wybodaeth.
Rydym eisoes wedi cyhoeddi Canllawiau ar gyfer GIG Cymru ac adroddiadau. Mae’r adroddiadau yn crynhoi effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd technolegau iechyd, ochr yn ochr â gwybodaeth gyd-destunol berthnasol ac unrhyw ofynion o ran ymchwil pellach i lywio penderfyniadau. Cliciwch yma i fynd i’n tudalen ‘Adroddiadau a Chanllawiau.’