Partneriaeth rhwng HTW a Bevan Commission wedi’i hadnewyddu
Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) a Chomisiwn Bevan wedi adnewyddu eu partneriaeth, gan addo gweithio mewn partneriaeth i wella iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Dechreuodd y ddau sefydliad gydweithio yn 2019, gan adeiladu ar eu nodau cyffredin i gefnogi arloesedd a sicrhau’r buddion iechyd a gofal cymdeithasol mwyaf posibl i bobl Cymru. Maen nhw bellach wedi arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, i barhau â’u partneriaeth.
Comisiwn Bevan yw prif felin drafod Cymru ar gyfer iechyd a gofal. Mae’n dod ag arbenigwyr rhyngwladol o fri o’r byd academaidd, trydydd sector, y GIG a diwydiant at ei gilydd i gynghori, dadansoddi a rhoi sylwadau ar faterion sy’n gysylltiedig ag iechyd a gofal yng Nghymru, a’i genhadaeth yw herio meddwl ac ymarfer ym maes iechyd a gofal.
Mae HTW yn gorff cenedlaethol a sefydlwyd yn 2017 i weithio gyda phartneriaid ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a’r sectorau technoleg, i ddarparu dull strategol o adnabod, arfarnu a mabwysiadu technolegau iechyd a gofal sydd ddim yn feddyginiaeth. Mae ein cylch gwaith yn cwmpasu unrhyw dechnoleg iechyd sydd ddim yn feddyginiaeth, fel dyfeisiau meddygol, triniaethau llawfeddygol, therapïau seicolegol, tele-fonitro neu adsefydlu.
Drwy gydweithredu, mae HTW a Chomisiwn Bevan wedi gallu rhannu mynediad i rwydweithiau ac arbenigwyr, cyfuno eu sylfaen wybodaeth, a sicrhau eu bod yn defnyddio adnoddau i’r eithaf. Ymhlith y prosiectau y mae’r ddau sefydliad wedi gweithio gyda’i gilydd arnynt yw’r rhaglen Esiamplau Bevan – rhaglen 12 mis sy’n galluogi staff y GIG i ddatblygu syniadau arloesol i wella canlyniadau iechyd, profiadau cleifion ac effeithlonrwydd adnoddau.
Dywedodd Helen Howson, Cyfarwyddwr Comisiwn Bevan: “Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi adnewyddu ein cydweithrediad gyda Technoleg Iechyd Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i gyfuno ein harbenigedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
“Drwy gydweithio fel hyn, rydym yn fwy abl i gefnogi arloesedd a darparu arbenigedd i’r rheini sy’n mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru heddiw.”
Ychwanegodd Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru: “Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu ein partneriaeth ymhellach, a chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o rannu ein harbenigedd a’n hadnoddau.”