Newyddion

04 Tachwedd, 2021

< BACK

Penodi arbenigwr gofal cymdeithasol fel Cadeirydd y Fforwm Rhanddeiliaid

Mae arbenigwr ym maes gofal cymdeithasol wedi cael ei benodi gan Technoleg Iechyd Cymru (HTW) fel Cadeirydd ei Fforwm Rhanddeiliaid newydd.

Sarah McCarty, sy’n Gyfarwyddwr Gwella a Datblygu Gofal Cymdeithasol Cymru, fydd yn cadeirio’r fforwm, sydd i fod i gyfarfod ddwywaith y flwyddyn, ac sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o’r sbectrwm iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Cafodd ei sefydlu i sicrhau bod HTW yn deall barnau rhanddeiliaid, ac i’w galluogi i ddylanwadu ar ei waith o ran nodi, arfarnu a mabwysiadu technolegau gofal a allai wella bywydau cleifion yng Nghymru.  Yn ogystal â chefnogi rhaglen waith HTW, bydd y fforwm yn darparu canllawiau ar flaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau gofal yng Nghymru.

Dechreuodd Sarah ei gyrfa fel gweithiwr ieuenctid, cyn mynd ymlaen i weithio gyda phobl ifanc agored i niwed mewn gwahanol leoliadau, a dod yn un o sylfaenwyr Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cymru bryd hynny.  Bu’n gweithio mewn awdurdodau lleol ac mewn swyddi cynllunio busnes ehangach a gwella gwasanaethau, ac mae ganddi Radd Meistr mewn Rheolaeth Strategol. Daeth yn Gyfarwyddwr Sgiliau Gofal a Datblygu yn 2008, ac ymunodd â Gofal Cymdeithasol Cymru fel Cyfarwyddwr ym mis Ebrill 2016.

Dywedodd: “Rwy’n falch dros ben o gael fy ngofyn i Gadeirio’r Fforwm Rhanddeiliaid i gefnogi, llywio ac arwain gwaith pwysig HTW. Mae hwn yn gyfle gwych i gydweithio â rhanddeiliaid ar draws gofal cymdeithasol ac iechyd yng Nghymru, i wneud y mwyaf o’n gwaith o fabwysiadu technolegau gofal.

Aeth Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru, ymlaen i ddweud: “Rydym yn falch iawn o groesawu Sarah McCarty fel Cadeirydd ein Fforwm Rhanddeiliaid. Mae ganddi gyfoeth o brofiad yn y sector gofal cymdeithasol, a bydd yn amhrisiadwy o ran ceisio sicrhau ein bod ni’n deall ac yn ateb anghenion y sector gofal yng Nghymru.”

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y fforwm ym mis Mai, ac roedd y rheini oedd yn bresennol yn cynnwys cynrychiolwyr o Goleg Brenhinol y Ffisigwyr, byrddau iechyd a Phwyllgor Cynghori Gwyddonol Cymru, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), a Llywodraeth Cymru.

Meddai Peter Groves, Cadeirydd HTW: “Mae’r Fforwm hwn yn cynnwys grŵp pwysig iawn o gydweithwyr y bydd eu cyngor a’u barn o werth mawr i HTW wrth helpu i sicrhau ein bod ni’n cyflawni ein hamcanion i wella iechyd a lles pobl Cymru.  Mae Sarah yn dod â phrofiad ac arbenigedd sylweddol mewn gofal cymdeithasol i’r rôl hon, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda hi.”