Newyddion

05 Mai, 2022

< BACK

Radiotherapi sydd yn gallu haneru’r amser y mae cleifion â chanser y prostad yn ei dreulio yn cael triniaeth yn cael ei argymell i’w ddefnyddio yng Nghymru

Mae math o radiotherapi a allai haneru’r amser y mae cleifion canser y prostad yn ei dreulio yn cael triniaeth wedi cael ei argymell i’w ddefnyddio yng Nghymru.

Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) wedi cyhoeddi canllaw, sy’n argymell mabwysiadu EHFRT (Extreme Hypofractionated Radiotherapy) fel mater o drefn ar gyfer trin canser cyfyngedig y prostad.

Yn y DU, canser y prostad yw’r canser mwyaf cyffredin ymhlith dynion ac yng Nghymru, mae dros 2,500 o ddynion yn cael diagnosis o ganser y prostad bob blwyddyn.

Mae radiotherapi yn cael ei gynnwys fel rhan o driniaeth sylfaenol mewn tua 30% o gleifion canser y prostad ac mae’n defnyddio ymbelydredd i reoli neu ladd celloedd canser. Mae’n cael ei roi bob dydd i gleifion canser y prostad, fel arfer dros sawl wythnos, am bum diwrnod yr wythnos am bedair wythnos.

Mae EHFRT yn fath wedi ei addasu o radiotherapi pelydr allanol confensiynol, ac mae’n rhoi mwy o radiotherapi fesul sesiwn driniaeth, sy’n golygu y gall cleifion gwblhau eu cwrs therapi ymbelydredd yn llawer cyflymach, gyda chyrsiau triniaeth yn gostwng o bedair wythnos i ddim ond pythefnos.

Canfu HTW, sy’n asesu effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiol technolegau iechyd sydd ddim yn feddyginiaethau i’w defnyddio gan y GIG yng Nghymru, bod EHFRT mor effeithiol â thriniaeth canser safonol y prostad, ei fod yn lleihau nifer yr ymweliadau ag ysbytai sydd eu hangen, a’i fod yn debygol o fod yn gost-effeithiol.

Dywedodd yr Athro Peter Groves, Cadeirydd Technoleg Iechyd Cymru: “Rydym yn argymell y dylai EHFRT fod ar gael fel triniaeth radiotherapi i bobl yng Nghymru sydd â chanser cyfyngedig y prostad.  Mae gan EHFRT y potensial i wella ansawdd eu bywydau, drwy haneru’r amser maen nhw’n ei dreulio yn cael triniaeth, a lleihau ymweliadau ag ysbytai. Rydym yn gobeithio y bydd ein hargymhelliad yn helpu i wella bywydau cleifion canser y prostad a’u teuluoedd ar draws Cymru.”

Gallwch ddarllen y canllaw llawn yma.