Biopsi laryngaidd i bobl mewn lleoliad cleifion allanol
Topic Status Complete
Biopsïau laryngaidd i bobl mewn lleoliad cleifion allanol pan fod ameuhaeth o ddysplasia/canser y pen a'r gwddf
Canlyniad yr arfarniad
Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu biopsi ffaryngolaryngol o dan anesthesia lleol i gadarnhau, ond nid i ddiystyru, diagnosis o ganser y pen a’r gwddf.
Gellir gwneud y driniaeth hon mewn lleoliad cleifion allanol ac nid oes angen gofal cleifion mewnol ac anesthesia cyffredinol. Mae gan ganlyniad positif y potensial i gyflymu’r broses o ddechrau triniaeth, ond dylai canlyniad negatif gael ei ddilyn gan ail fiopsi mewn theatr lawdriniaeth o dan anesthesia cyffredinol.
Mae modelu economaidd yn amcangyfrif bod potensial i arbed costau drwy ddefnyddio biopsi ffaryngolaryngol o dan anesthesia lleol yn hytrach nag mewn amgylchedd theatr o dan anesthesia cyffredinol a bod hon yn weithdrefn gost-effeithiol.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Mae canserau’r pen a’r gwddf yn falaenau sy’n digwydd yn y laryncs, ceudod y geg, chwarennau poer, rhannau o’r ffaryncs a’r sinysau paradrwynol. Os na chaiff ei drin, gall y tiwmor ledaenu i ardaloedd lleol a phell, yn fwyaf cyffredin y nodau lymff. Yng Nghymru adroddir am tua 500 o achosion newydd o ganser y pen a’r gwddf bob blwyddyn.
Y dull presennol o wneud diagnosis o gleifion yr amheuir bod ganddynt ganser y pen a’r gwddf yw biopsi a wneir mewn theatr lawdriniaeth o dan anesthesia cyffredinol. Gallai cynnal biopsi claf allanol o dan anesthesia lleol osgoi’r angen am fiopsi fel claf mewnol o dan anesthesia cyffredinol yn ogystal â lleihau’r amser i gael diagnosis a’r amser i gael triniaeth.
Cyflwynwyd y pwnc hwn i Dechnoleg Iechyd Cymru gan Alex Zervakis, Rheolwr Cyffredinol, Economeg Iechyd a Mynediad i’r Farchnad, Olympus Medical.
Crynodeb mewn iaith glir
Gellir dod o hyd i ganser y pen a’r gwddf y tu mewn i’r geg, y trwyn, y blwch llais, y gwddf, y chwarennau poer a’r sinysau. Mae’r symptomau’n amrywio yn ôl natur a lleoliad y canser. Mae cleifion yr amheuir bod ganddynt ganser y pen a’r gwddf fel arfer yn cael eu gweld mewn clinigau cleifion allanol ar gyfer gweithdrefn endosgopi diagnostig. Os yw’r canlyniad yn ansicr, fel arfer mae’n rhaid i gleifion aros am lawdriniaeth er mwyn cael biopsi, a gynhelir gan amlaf o dan anesthetig cyffredinol.
Mae biopsi ffaryngolaryngeal yn digwydd yn y ffaryncs (sy’n cysylltu’r laryncs i’r trwyn a’r geg) a’r laryncs (neu’r blwch llais). Mae’n defnyddio offeryn bach i dynnu sampl o gelloedd o’r ardaloedd hyn i’w harchwilio am arwyddion o ganser. Gellir gwneud biopsïau ffaryngolaryngeal o dan anesthetig lleol heb fod angen aros am slot ar gyfer llawdriniaeth, a gall hyn arwain at ddiagnosis cyflymach o ganser, a gallai olygu triniaeth gyflymach.
Mae HTW yn chwilio am dystiolaeth ynglŷn ag effeithiolrwydd biopsïau ffaryngolaryngeal ar gyfer pobl yr amheuir bod ganddynt ganser y pen a’r gwddf. Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu biopsi ffaryngolaryngeal o dan anesthesia lleol i gadarnhau, ond nid i ddiystyru, diagnosis o ganser y pen a’r gwddf.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER304 10.2021
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR040 04.2022
Arweiniad
GUI040 05.2022