Cit Prawf Synovasure® Alpha Defensin
Topic Status Complete
Cit Prawf Synovasure ® Alpha Defensin i asesu haint y cymalau periprosthetig.
Canlyniad yr arfarniad
Mae’r defnydd o’r prawf defensin alffa Synovasure yn dangos addewid ar gyfer diagnosio haint y glun a’r pen-glin periprosthetig, ond nid yw’r dystiolaeth ar hyn o bryd yn
cefnogi gwneud hyn fel mater o drefn. Mae gan Synovasure y potensial i gael diagnosis pellach i gleifion gyda chanlyniadau amwys o brofion confensiynol, ond mae angen tystiolaeth fwy
argyhoeddiadol. Felly, mae HTW yn argymell cynnal rhagor o ymchwil yn y grŵp hwn o gleifion i ddiffinio cywirdeb diagnostig, canlyniadau clinigol a chanlyniadau sy’n ymwneud â’r gost o ddefnyddio synovasure yn ogystal ag ymchwiliadau safonol.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Cyfeiriwyd y pwnc hwn at HTW gan gynhyrchydd y prawf defensin alffa Synovasure® (Zimmer Biomet). Mae Haint y Cymalau Periprosthetig (PJI) yn gymhlethdod anghyffredin ond difrifol o fewn llawdriniaethau i osod cluniau a phen-gliniau newydd, sy’n effeithio ar tua 1% o arthroplastiau’r glun ac 1% i 2% o arthroplastiau’r pen-glin. Mae PJI yn anodd ei ddiagnosio, a gallai defnyddio’r prawf defensin alffa Synovasure® wella’r cyfraddau canfod ac yn y pen draw, arwain at reoli cleifion yn fwy priodol.
Crynodeb mewn iaith glir
Asesodd HTW Brawf Defensin Alffa Synovasure® er mwyn helpu i benderfynu a ddylai fod ar gael i’r GIG yng Nghymru er mwyn diagnosio Haint y Cymalau Periprosthetig.
Nid yw Haint y Cymalau Periprosthetig yn gyffredin, ond mae’n gymhlethdod difrifol a all ddigwydd wedi llawdriniaeth ar gyfer clun neu ben-glin newydd. Gall fod yn anodd ei ddiagnosio mewn rhai pobl, ond yn hawdd mewn eraill.
Mae gan Synovasure® y potensial i roi’r diagnosis cywir i fwy o bobl na’r prawf presennol. Gallai hyn olygu bod mwy o bobl yn cael y gofal sydd ei angen arnynt, heb oedi. Gallai Synovasure® fod yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer pobl sy’n anodd eu diagnosio gan ddefnyddio’r profion yr ydym yn eu defnyddio ar yn o bryd. Fodd bynnag, mae angen rhagor o dystiolaeth i brofi hyn.
Nid yw Canllaw HTW yn cefnogi’r defnydd o’r prawf diagnostig hwn fel mater o drefn. Mae HTW yn awgrymu y dylai ymchwil newydd ymhlith y grŵp hwn o bobl ystyried sut y mae defnyddio Synovasure® yn ychwanegol at y profion safonol yn cymharu â defnyddio profion safonol un unig o ran cywirdeb, canlyniadau ar gyfer cleifion a chostau.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER015 10.2018
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR008 06.2019
Arweiniad
GUI008 06.2019