Croesgysylltu ar y gornbilen
Topic Status Complete
Croesgysylltu ar y gornbilen i drin oedolion a phlant sydd â’r cyflwr ceratoconws
Canlyniad yr arfarniad
Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu croesgysylltu ar y gornbilen (CXL) fel mater o drefn ar gyfer plant ac oedolion sydd â’r cyflwr ceratoconws sy’n gwaethygu. O gymharu â gofal safonol, mae CXL yn arafu gwaethygiad clefyd a gallai wella craffter golwg. Gall hefyd leihau neu oedi’r angen am drawsblaniad cornbilen.
Mae modelu economaidd yn awgrymu bod CXL yn gost effeithiol ar sail budd clinigol cynaledig tybiedig am o leiaf 14 o flynyddoedd.
Mae HTW yn argymell caffael data byd real i gael canlyniadau hirdymor (yn cynnwys mesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion) ymhlith pobl sy’n cael CXL ar gyfer ceratoconws.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Cyflwr llygad a nodweddir gan deneuo ac afluniad graddol y gornbilen yw ceratoconws, sy’n achosi chwydd siâp côn i ddatblygu. Gall hyn arwain at y golwg yn niwlo, golwg byr a sensitifrwydd i olau neu ddisgleirdeb. Yn nodweddiadol mae’n datblygu ymhlith plant ac oedolion ifanc a gall ddirywio dros amser. Os bydd y dirywiad hwn yn parhau ac nad yw’n cael ei drin, bydd angen i rai pobl sydd â ceratoconws gael trawsblaniad cornbilen er mwyn adfer eu golwg. Gweithdrefn sy’n defnyddio meddyginiaeth diferion llygad ribofflafin wedi’i chyfuno â thriniaeth golau uwchfioled i gyfnerthu a chryfhau’r gornbilen, ac arafu neu atal gwaethygiad ceratoconws yw croesgysylltu ar y gornbilen (CXL).
Yn wreiddiol cyhoeddodd HTW Ganllaw ar CXL i drin ceratoconws ym mis Chwefror 2018. Diweddarir Canllaw HTW yn achlysurol pan fo angen. Yn dilyn ymgynghoriad gydag Optometreg Cymru a Chonsortiwm Croesgysylltu y DU, cytunodd HTW ei bod yn briodol i gyhoeddi Canllaw wedi’i ddiweddaru, oherwydd newidiadau sylweddol yn y sail tystiolaeth ers y cyhoeddwyd y Canllaw gwreiddiol.
Crynodeb mewn iaith glir
Mae ceratoconws yn digwydd pan fo eich cornbilen – wyneb allanol clir siâp cromen eich llygad – yn teneuo ac yn chwyddo allan yn raddol fel ei bod yn siâp côn. Mae ffibrau bach iawn o brotein yn y llygad, a elwir yn golagen, yn helpu i ddal y gornbilen yn ei lle. Pan fydd y ffibrau hyn yn gwanhau ni allant gadw eu siâp a bydd y gornbilen yn mynd yn fwy a mwy tebyg i gôn. Gall cornbilen siâp côn niwlio’r golwg, achosi golwg byr a sensitifrwydd i olau a disgleirdeb. Yn nodweddiadol mae’r cyflwr yn datblygu mewn plant ac oedolion ifanc a gall ddirywio dros amser. Bydd angen trawsblaniad cornbilen ar rai pobl sydd â’r cyflwr ceratoconws fel nad ydynt yn colli eu golwg.
Triniaeth ar gyfer pobl y mae eu cyflwr ceratoconws yn gwaethygu’n gyflym, ac na ellir cywiro eu colli golwg heb sbectol neu lensys cyffwrdd, yw croesgysylltu ar y gornbilen. Bydd meddygon yn defnyddio meddyginiaeth ar ffurf diferion llygad a golau uwchfioled (UV) i gryfhau meinwe’r gornbilen. Mae’r broses hon yn atal y gornbilen rhag chwyddo mwy. Fe’i gelwir yn “croesgysylltu” oherwydd bod y weithdrefn yn ychwanegu mwy o fondiau biofecanyddol rhwng y ffibrau colagen yn eich llygad, gan eu gwneud yn gryfach.
Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru (HTW) am dystiolaeth ynglŷn ag effeithiolrwydd clinigol ac o ran cost croesgysylltu ar y gornbilen ymhlith pobl sydd â ceratoconws sy’n gwaethygu. Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu croesgysylltu ar y gornbilen (CXL) fel mater o drefn ar gyfer plant ac oedolion sydd â ceratoconws sy’n gwaethygu.
Mae hwn yn fersiwn wedi’i ddiweddaru o arfarniad. Cyhoeddodd HTW Ganllaw ar y pwnc hwn yn wreiddiol ym mis Chwefror 2018. Os hoffech weld y Canllaw a’r dogfennau ategol o’r arfarniadau blaenorol, cysylltwch â HTW.