Cyfnerthu’r nerfau ocsipwt

Statws Testun Cyflawn

Cyfnerthu’r nerfau ocsipwt ar gyfer trin cur pen clwstwr cronig anhydrin yn feddygol.

Canlyniad yr arfarniad

 

Mae ysgogi’r nerfau ocsipwt yn dangos addewid ar gyfer trin cur pen clwstwr cronig anhydrin yn feddygol, ond does dim digon o dystiolaeth i gefnogi hyn fel mater o drefn.

Mae ansicrwydd ynghylch effaith therapiwtig ysgogi’r nerfau ocsipwt ar sail y dystiolaeth na ellir ei chymharu sydd ar gael, ac mae’n anodd amcangyfrif y canlyniadau economaidd. Argymhellir rhagor o ymchwil i ganfod effaith ysgogi’r nerfau ocsipwt ar amlder a difrifoldeb ymosodiadau cur pen clwstwr, ansawdd bywyd a goblygiadau o ran cost.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Mae cur pen clwstwr cronig yn fath prin o anhwylder cur pen sy’n peri symptomau difrifol ac anodd weithiau. Mae’r pyliau cur pen yn cael eu rheoli gydag ystod o wahanol gyffuriau.  Mae cyfran fechan (rhwng 5% a 20%) o bobl sydd â chur pen clwstwr cronig yn anhydrin i driniaeth gan gyffuriau, ac mae’r bobl hyn yn dal i ddioddef o byliau o gur pen bob dydd neu bron bob dydd. Mae mewnblannu dyfais i ysgogi’r nerfau ocsipwt wedi cael ei gynnig fel ffordd o fodiwleiddio amlder a difrifoldeb ymosodiadau cur pen clwstwr nad ydynt yn ymateb yn dda i driniaeth cyffuriau.

Awgrymwyd y pwnc hwn drwy Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC). Mae’r mynediad presennol i ysgogi’r nerfau ocsipwt i gleifion cymwys yng Nghymru yn cael ei wneud drwy geisiadau cyllido cleifion unigol, ac yn cael eu hatgyfeirio i GIG Lloegr.

Crynodeb mewn iaith glir

 

Edrychodd Technoleg Iechyd Cymru (HTW) ar dystiolaeth y gellir defnyddio ysgogi’r nerfau ocsipwt ar gyfer trin cur pen clwstwr cronig sydd ddim yn ymateb i driniaethau arferol.

Mae cur pen clwstwr cronig yn fath prin o gur pen, sy’n boenus iawn. Fel arfer, maen nhw’n cael eu trin trwy feddyginiaethau sy’n ceisio atal y cur pen neu drin y symptomau cur pen. Fodd bynnag, nid yw nifer fach o bobl yn ymateb i driniaeth.

Mae ysgogi’r nerfau ocsipwt yn cynnwys ysgogi’r nerfau ocsipwt yn electronig, sydd yng nghefn y pen.  Mae ceblau sy’n cynnwys electrodau yn cael eu mewnblannu o dan y croen dros y nerfau ocsipwt. Mae’r ceblau wedi’u cysylltu â batri sydd fel arfer yn cael ei roi o dan y croen yn y frest. Mae’r ddyfais yn anfon pylsiau trydan ysgafn ar hyd y nerfau hyn, sy’n ceisio lleihau poen y cur pen.

Ar hyn o bryd, nid yw canllawiau HTW yn cefnogi’r broses o fabwysiadu ysgogi’r nerfau fel mater o drefn, gan nad oes digon o dystiolaeth i ddangos manteision y weithdrefn.  Fodd bynnag, mae HTW yn cefnogi’r mynediad parhaus i ysgogi’r nerfau ocsipwt gan gleifion drwy’r broses ceisiadau cyllido cleifion unigol (CCCU). Mae HTW yn argymell y dylid gwneud mwy o ymchwil.

Mae ein dogfennau cyngor yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho ond buasem yn ddiolchgar pe gallech ein helpu i wella ein gwasanaethau drwy ddweud wrthym pam eich bod chi’n edrych ar ein cyngor.

Hepgor y ffurflen a lawrlwytho ffeil Cau

    Efallai yr hoffem gysylltu â chi trwy e-bost i gael gwybod mwy am sut y gwnaethoch ddefnyddio'r dogfennau.