Dinerfu arennol radio-amledd
Statws Testun Cyflawn
Dinerfu arennol i drin pobl â gorbwysedd sydd ag ymwrthedd.
Canlyniad yr arfarniad
Ystyriodd Grŵp Asesu HTW y dystiolaeth a gyflwynwyd yn Adroddiad Arfarnu Tystiolaeth 042. Roeddent hefyd yn ymwybodol o ganllaw diweddar sy’n ymdrin â dinerfu arennol gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE IPG754). Mae’r canllaw yn argymell y dylid defnyddio’r driniaeth, gyda ‘threfniadau arbennig ar gyfer llywodraethu clinigol, cydsynio, ac archwilio neu ymchwil’.
O ystyried nad oedd NICE IPG754 yn argymell y gellid defnyddio’r driniaeth gyda threfniadau safonol, daeth y Grŵp Asesu i’r casgliad na fyddai’n briodol i Banel Arfarnu HTW gynhyrchu Canllaw. Argymhellodd y Grŵp Asesu gyhoeddi’r arfarniad fel Adroddiad Arfarnu Tystiolaeth yn unig.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Mae pwysedd gwaed uchel (gorbwysedd) yn achos pwysig, y gellir ei drin, o forbidrwydd a marw cyn pryd. Mae’n ffactor sy’n gallu achosi risg mawr o ddioddef strôc, cnawdnychiad myocardaidd, methiant y galon, clefyd cronig yr arennau, dirywiad gwybyddol, a marw cyn pryd. Mae newidiadau mewn ffordd o fyw, rhoi’r gorau i ysmygu, a newid deiet yn chwarae rhan bwysig mewn cefnogi pobl â gorbwysedd i reoli eu pwysedd gwaed. Mae yna hefyd nifer o feddyginiaethau y gellir eu defnyddio i helpu i reoli pwysedd gwaed.
I rai pobl, nid yw’r rhain yn ddigon i leihau gorbwysedd i lefelau derbyniol. Cyfeirir at y math hwn o orbwysedd fel gorbwysedd sydd ag ymwrthedd, ac mae’r risg o ganlyniadau negyddol yn uchel i’r boblogaeth hon. Ar gyfer y boblogaeth hon, mae NICE yn argymell y dylid parhau i gymryd meddyginiaeth a mesur pwysedd gwaed gartref ac os oes angen, efallai y bydd angen cymryd mwy o feddyginiaeth ac atgyfeirio at wasanaethau arbenigol. Felly, gall triniaethau ychwanegol fod yn fuddiol.
Crynodeb mewn iaith glir
Mae pwysedd gwaed uchel (gorbwysedd) yn gyflwr lle mae pŵer llif y gwaed yn erbyn waliau rhydwelïau yn ddigon uchel, fel y gall achosi problemau iechyd yn y pen draw, fel clefyd y galon. Mae’n ffactor risg mawr ar gyfer strôc, methiant y galon, clefyd cronig yr arennau, dirywiad gwybyddol, a marw cyn pryd. Felly, mae’n bwysig helpu pobl i sicrhau bod eu pwysedd gwaed yn iach.
Mae nifer o feddyginiaethau y gellir eu defnyddio i helpu i reoli pwysedd gwaed, yn ogystal â gweithredu newidiadau yn eu ffyrdd o fyw. Fodd bynnag, i rai pobl, nid yw hyn yn ddigon i ddod â’u pwysedd gwaed i lefel iach. Mae hyn yn cael ei alw’n orbwysedd sydd ag ymwrthedd.
Mae therapi dinerfu arennol yn defnyddio abladiad radioamledd, techneg dan arweiniad delweddau, sy’n defnyddio gwres i ddinistrio celloedd. Mae’r nerfau yn y rhydwelïau arennol yn cael eu llosgi i achosi gostyngiad yn y gweithgarwch nerfol, sy’n lleihau pwysedd gwaed. Nid yw’r broses yn ymledol iawn ac fel arfer, mae’n cael ei pherfformio o dan anesthetig lleol.
Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar ddinerfu arennol i drin pobl â gorbwysedd sydd ag ymwrthedd.
Adroddiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR042 12.2023
Adroddiad Archwilio Pwnc
(superseded by EAR042 12.2023)