Dyfeisiau Pwysedd Allanadlol Cadarnhaol Osgiliadol

Statws Testun Cyflawn

Dyfeisiau pwysedd allanadlol cadarnhaol osgiliadol ar gyfer clirio’r llwybr anadlu mewn cyflyrau gorsecretol cronig yr ysgyfaint.

Canlyniad yr arfarniad

 

Ymgymerodd HTW ag adolygiad o dystiolaeth i fynd i’r afael â’r cwestiwn canlynol: ydy dyfeisiau pwysedd allanadlol cadarnhaol osgiliadol (OPEP) yn fwy effeithiol yn glinigol ac yn fwy cost-effeithiol na thechnegau eraill ar gyfer clirio’r llwybr anadlu mewn cyflyrau gorsecretol cronig yr ysgyfaint?

Nodwyd cryn dipyn o dystiolaeth ar effeithiolrwydd OPEP mewn amrywiaeth o wahanol fathau o gyflyrau gorsecretol yr ysgyfaint. Roedd y ffordd y defnyddiwyd dyfeisiau OPEP, a pha ganlyniadau a ddefnyddiwyd i fesur eu heffeithiolrwydd, yn amrywio’n sylweddol rhwng gwahanol ffynonellau tystiolaeth.

Nododd rhanddeiliaid fod proses gwneud penderfyniadau glir sy’n ddibynnol ar gleifion yng Nghymru ar waith, i benderfynu pwy sy’n defnyddio OPEP, a bod y broses hon yn agored i newid yn y dyfodol. Byddai unrhyw argymhelliad yn un dros dro, ac ychydig o werth fyddai’n cael ei ychwanegu drwy gynhyrchu canllawiau ar hyn o bryd. Felly, daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad na ddylai’r pwnc hwn gael ei anfon ymlaen i’r Panel Arfarnu, ac na fydd yn derbyn argymhellion Canllawiau HTW.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Mae dyfeisiau pwysedd allanadlol cadarnhaol osgiliadol yn cael eu defnyddio’n aml, fel math o ffisiotherapi ar y frest i glirio mwcws o ysgyfaint unigolion sydd â chyflyrau gorsecretol. Mae dyfeisiau OPEP yn ceisio torri ar draws llwybrau anadlu allanadlol drwy ddarparu ymwrthedd wrth anadlu allan, ac achosi i’r llwybrau awyr grynu a llacio’r mwcws. Mae dyfeisiau OPEP eisoes ar gael ar bresgripsiwn gan y GIG, ac mae sawl dyfais ar gael yng Nghymru. Mae adborth gan arbenigwyr clinigol yn awgrymu eu bod yn cael eu defnyddio fel opsiwn i gleifion ochr yn ochr â thechnegau clirio llwybrau anadlu traddodiadol, lle nad yw’r claf yn gallu cael mathau confensiynol o ffisiotherapi. Canolbwyntiodd yr adolygiad ar ddefnyddio’r dyfeisiau OPEP mewn pobl sydd â chyflyrau gorsecretol, sy’n cynnwys ffibrosis systig, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, a bronciectasis.

Crynodeb mewn iaith glir

 

Mae cyflyrau hypersecretol yr ysgyfaint, lle mae gormod of fwcws yn cael ei gynhyrchu, yn cynnwys cyflyrau fel ffibrosis systig, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD), a bronciectasis. Mewn ffibrosis systig, mae nam genetig yn arwain at gynhyrchu mwcws annormal yn y llwybrau anadlu, sy’n gallu achosi rhwystr. Mae’n gallu ei gwneud yn hawdd cael haint hefyd sydd yn ei dro, yn cynhyrchu mwy o fwcws. Mae COPD yn gyflwr cynyddol, lle mae’r llwybr anadlu’n cael ei rwystro. Mae’r rhwystrau hyn i’r llwybrau anadlu bach yn gallu achosi mwy o fwcws i gael ei gynhyrchu sydd yn ei dro, yn culhau’r llwybr anadlu ymhellach. Yn olaf, mae bronciectasis yn gyflwr lle mae llwybrau anadlu’r ysgyfaint yn cael eu lledu’n annormal. Mae’r ehangu hwn yn arwain at gronni mwcws, sy’n gallu gwneud yr ysgyfaint yn fwy agored i haint. Ym mhob un o’r cyflyrau hyn, mae’n angenrheidiol clirio’r mwcws sy’n cronni’n ormodol o’r llwybr anadlu a’r ysgyfaint.

Yn draddodiadol, mae mwcws yn cael ei glirio o’r llwybrau anadlu a’r ysgyfaint yn defnyddio dyfeisiau pwysedd allanadlol cadarnhaol. Wrth anadlu allan drwy ddyfais pwysedd allanadlol cadarnhaol, mae’r ddyfais yn rhoi ymwrthedd sy’n ei gwneud yn anodd anadlu allan. Mae hyn yn helpu i lacio a symud mwcws allan o’r ysgyfaint. Ar ôl defnyddio’r ddyfais pwysedd allanadlol cadarnhaol, mae’r defnyddiwr yn pesychu i helpu i glirio’r mwcws o’r corff. Mae dyfeisiau pwysedd allanadlol cadarnhaol osgiliadol yn cyfuno dyfeisiau pwysedd allanadlol cadarnhaol gydag osgiliadau amledd uchel, neu symudiadau cyflym yn ôl ac ymlaen mewn rhythm rheolaidd, i ddarparu ymwrthedd. Gellir defnyddio’r rhain mewn dwy ffordd; y tu mewn (thorasig mewnol) neu’r tu allan i’r corff (thorasig allanol). Fel arfer, mae dyfeisiau thorasig mewnol yn cael eu gosod yn y geg, ac yn darparu ymwrthedd wrth anadlu allan, sy’n achosi i’r llwybrau anadlu fywiogi a llacio’r mwcws. Mae dyfeisiau thorasig allanol yn cael eu gosod y tu allan i’r corff.

Canfu adroddiad HTW dystiolaeth ar ba mor effeithiol yw dyfeisiau OPEP ar draws ystod o gyflyrau. Roedd y ffordd y defnyddiwyd y dyfeisiau, a’r ffordd y mesurwyd eu heffeithiolrwydd, yn amrywio ar draws gwahanol gyflyrau, gan ei gwneud yn anodd eu hargymell ar gyfer unrhyw grŵp penodol o gleifion. Mae proses gwneud penderfyniadau glir sy’n dibynnu ar y claf ar waith i benderfynu pwy sy’n defnyddio OPEP, ac mae’r broses hon yn agored i newid yn y dyfodol. Felly, daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad y byddai unrhyw argymhelliad yn un dros dro yn unig, ac mai ychydig o werth fyddai’n cael ei ychwanegu drwy gynhyrchu canllawiau ar hyn o bryd.