Dyfeisiau uwchsain llaw
Statws Testun Cyflawn
Defnyddio dyfeisiau uwchsain llaw ar gyfer cynnal asesiadau o’r galon a diagnosio methiant systolig y galon yn y lleoliad cymunedol neu gofal sylfaenol.
Canlyniad yr arfarniad
Mae dyfeisiau uwchsain llaw (HUDs) yn dangos addewid yn y diagnosis o fethiant y galon mewn lleoliad gofal sylfaenol neu gymunedol, ond mae’r dystiolaeth bressennol yn annigonol i gefnogi mabwysiadu hyn fel mater o drefn. Mae gan HUDs y potensial i leihau atgyfeiriadau gofal eilaidd os gellir disytyru methiant y galon fel ffactor, ac i hwyluso triniaeth gynharach os caiff ei gadarnhau, ond mae angen tystiolaeth argyhoeddiadol i gadarnhau unrhyw fuddiannau clinigol a buddiannau i’r system gofal iechyd.
Mae HTW yn argymell ymchwilio ymhellach i’r manteision o ddefnyddio HUDs mewn lleoliad gofal sylfaenol neu gymunedol yng Nghymru; Gweler Canllaw am ragor o wybodaeth.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Mae methiant y galon yn gyflwr cyffredin a difrifol sy’n rhoi baich cynyddol ar wasanaethau cardioleg a delweddu’r galon yng Nghymru. Gellir diagnosio methiant y galon drwy gynnal asesiad clinigol a phrofion biocemegol, ond mae defnyddio sgan uwchsain o’r galon (sgan ecocardiograffeg) yn allweddol i naill ai gadarnhau neu ddiystyru’r diagnosis. Fel arfer, mae sgan ecocardiograffeg yn cael ei pherfformio mewn ysbyty, ond drwy ddefnyddio dyfeisiau uwchsain llaw, gellir ei gynnig fel prawf cyflym a symudol i bobl mewn lleoliad gofal sylfaenol neu gymunedol. Gallai hyn alluogi i gleifion gael eu rheoli’n gynt ac yn well, ac osgoi gorfod anfon cleifion i’r ysbyty mewn rhai achosion.
Crynodeb mewn iaith glir
Mae HTW wedi asesu dyfeisiau uwchsain a ddelir yn y llaw, er mwyn helpu’r GIG yng Nghymru i benderfynu a ddylid defnyddio’r cynhyrchion hyn mewn lleoliadau gofal yn y gymuned o ddydd i ddydd.
Mae methiant y galon yn gyflwr cyffredin yng Nghymru, gyda dros 33,000 o bobl wedi cael ei diagnosio â’r cyflwr gan eu meddyg teulu.
Peiriannau bach, sy’n ffitio mewn poced, yw dyfeisiau uwchsain a ddelir yn y llaw y gellir eu defnyddio i weld strwythur a gweithrediad y galon. Gallant helpu i benderfynu a oes angen i bobl sydd â symptomau methiant y galon, megis prinder anadl, gael eu hatgyfeirio i’r adran gardioleg am ragor o brofion.
Nid oes digon o dystiolaeth i argymell dyfeisiau uwchsain a ddelir yn y llaw mewn gofal sylfaenol neu ofal yn gymuned. Mae HTW yn argymell mwy o ymchwil yng Nghymru sy’n defnyddio dyfeisiau uwchsain a ddelir yn y llaw mew gofal yn y gymuned o ddydd i ddydd.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER014 04.2019
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR009 05.2019
Canllaw
GUI009 05.2019