EHFRT (Extreme HypoFractionated Radiotherapy)
Statws Testun Cyflawn
EHFRT (Extreme HypoFractionated Radiotherapy) ar gyfer canser y prostad lleol
Canlyniad yr arfarniad
Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu radiotherapi hypoffracsiynedig eithafol (EHFRT) fel mater o drefn i drin canser cyfyngedig y prostad.
Mae EHFRT yn gysylltiedig â chanser tymor byr a thymor canolig sy’n dychwelyd a chanlyniadau goroesi cyfatebol o’i gymharu â gofal safonol (radiotherapi wedi’i ffracsiynu’n gymedrol neu’n gonfensiynol). Mae EHFRT yn lleihau nifer yr ymweliadau sydd eu hangen ar gyfer triniaeth ac mae’n gysylltiedig â nifer isel o ddigwyddiadau andwyol.
Mae EHFRT yn debygol o fod yn gost-effeithiol o gymharu â gofal safonol. O’i gymharu â radiotherapi hypoffracsiynedig cymedrol a arweinir gan farcwyr sefydlog, mae EHFRT (saith ffracsiwn) gan ddefnyddio marcwyr sefydlog yn debygol o fod yn gost effeithiol os caiff ei ddarparu mewn slotiau triniaeth o 20 munud neu lai. Os darperir EHFRT mewn pum ffracsiwn, mae’n debygol o fod yn gost effeithiol ar bob slot hyd at 30 munud.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Canser y prostad yw’r canser mwyaf cyffredin ymhlith dynion yn y DU. Yng Nghymru, caiff mwy na 2,500 o ddynion ddiagnosis o ganser y prostad bob blwyddyn. Mae radiotherapi wedi’i gynnwys fel rhan o driniaeth sylfaenol mewn tua 30% o gleifion sy’n cael diagnosis o ganser y prostad.
Mae EHFRT yn addasiad i radiotherapi pelydr allanol confensiynol ac mae’n darparu’r dos cyfatebol o radiotherapi mewn llai o sesiynau neu ffracsiynau: mae EHFRT yn defnyddio pump neu saith ffracsiwn dros bythefnos tra bod triniaeth radiotherapi safonol (radiotherapi wedi’i ffracsiynu’n gymedrol) fel arfer yn defnyddio 20 ffracsiwn dros 4 wythnos. Mae gan gyfnod byrrach o driniaeth a ddarperir dros lai o sesiynau y potensial i leihau ymweliadau ysbyty, lleihau costau teithio, a lleddfu rhywfaint o anghyfleustra triniaeth i gleifion a’u teuluoedd.
Cynigiwyd y pwnc hwn gan Dr John Staffurth, Oncolegydd Ymgynghorol, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
Crynodeb mewn iaith glir
Mae canser y prostad yn ganser sy’n dechrau yn y prostad. Mae’n gallu arwain at broblemau wrinol, poen a gwaed yn yr wrin. Mae gan ganser y prostad y potensial i dyfu a lledaenu’n gyflym, ond os nad yw’r canser wedi lledaenu y tu allan i’r prostad, gellir ei reoli neu ei drin yn llwyddiannus fel arfer.
Mae therapi ymbelydredd, neu radiotherapi, yn therapi sy’n defnyddio ymbelydredd fel rhan o driniaeth canser i reoli neu ladd celloedd canser. Mae pelydrau o ymbelydredd yn cael eu cyfeirio at gelloedd canseraidd gan beiriant. Mae radiotherapi fel arfer yn cael ei roi’n ddyddiol dros sawl wythnos. Mae pob ymweliad â’r ysbyty i gael triniaeth yn cael ei alw’n un ‘ffracsiwn’ o radiotherapi. I bobl â chanser y prostad, yr arfer safonol yw cyflwyno radiotherapi mewn sesiynau byr am 5 diwrnod yr wythnos, fel arfer am 4 wythnos.
Mae EHFRT (Extreme hypofractionated radiotherapy) yn driniaeth radiotherapi lle mae mwy o ymbelydredd yn cael ei ddarparu fesul triniaeth, fel y gall cleifion gwblhau eu cwrs therapi ymbelydredd yn llawer cyflymach. Mae EHFRT yn gallu lleihau cyrsiau triniaeth o 4 wythnos i 2 wythnos.
Edrychodd HTW am dystiolaeth ar effeithiolrwydd EHFRT ar gyfer pobl sydd â chanser cyfyngedig y prostad. Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu EHFRT yn rheolaidd i drin canser cyfyngedig y prostad, gan ei fod yn dangos bod EHFRT mor effeithiol â gofal safonol, ei fod yn lleihau nifer yr ymweliadau ag ysbytai, a’i fod yn debygol o fod yn gost-effeithiol.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER244 05.2021
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR034 11.2021
Canllaw
GUI034 02.2022