Floseal i drin epistaxis
Statws Testun Cyflawn
Mae Floseal yn feddyginiaeth sydd yn amsugno’n naturiol, y gellir ei defnyddio i drin epistaxis (gwaedlif o’r trwyn) os nad yw triniaethau cymorth cyntaf yn gweithio.
Canlyniad yr arfarniad
Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu matrics gwaedataliol gelatin-thrombin Floseal fel opsiwn triniaeth mewn pobl â gwaedlif trwyn acíwt.
Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu bod Floseal yr un mor effeithiol â phacio’r trwyn â deunydd anhydawdd ar gyfer atal gwaedu am hyd at 14 diwrnod, a gallai leihau cyfradd ail-waedu yn gyffredinol. Mae Floseal yn gysylltiedig â llai o boen a gwell bodlonrwydd cleifion yn ystod triniaeth na phacio trwyn confensiynol.
Er bod Floseal ar gyfer trin gwaedlif trwyn acíwt yn golygu costau, gyda chost o £271 am bob ail-waedu a atalir, ystyrir ei fod yn debygol o fod yn ymyriad cost-effeithiol.
Mae Technoleg Iechyd Cymru yn argymell caffael tystiolaeth ar effeithiolrwydd matrics gwaedataliol gelatin-thrombin ar gyfer plant â gwaedlif trwyn acíwt.
Pam wnaeth Technoleg Iechyd Cymru (HTW) arfarnu’r pwnc hwn?
Mae gwaedlif trwyn yn gyflwr cyffredin iawn a achosir gan waedu o’r pibellau gwaed y tu mewn i’r ffroenau. Mae’r rhan fwyaf o boblogaeth y DU yn cael gwaedlif trwyn ar ryw adeg, ond dim ond cyfran fach sydd angen triniaeth feddygol. Mae angen triniaeth frys ar gyfer gwaedlif trwyn nad yw’n datrys gyda thriniaeth geidwadol o fewn 10 i 15 munud. Gwneir hyn fel arfer mewn adran achosion brys ysbyty gan ddefnyddio system serio’r trwyn neu bacio’r ffroenau â deunydd anhydawdd.
Mae matricsau gwaedataliol wedi’u gwneud o gelatin a thrombin yn fath o ymyriad lleol a ddefnyddir yn uniongyrchol y tu mewn i’r trwyn i reoli gwaedu. Maent yn fath o baciad trwynol hydawdd sydd hefyd yn ysgogi ceulo gwaed lleol. Y manteision a honnir dros driniaeth pacio trwynol confensiynol yw nad oes angen eu tynnu, bod y driniaeth yn achosi llai o anghysur i gleifion ac nad oes angen mynd i’r ysbyty fel arfer. Gallai’r buddion hyn a honnir leihau costau oherwydd bod angen llai o amser ysbyty ac adnoddau.
Awgrymwyd y pwnc hwn i HTW drwy Wasanaeth Arloesedd y GIG.
Crynodeb mewn iaith glir
Mae gwaedlif trwyn yn digwydd pan fydd pibellau gwaed yn leinin y trwyn yn byrstio. Mae yna lawer o resymau pam y gall gwaedlif trwyn ddigwydd, megis haint, anaf, adwaith alergaidd, pigo trwyn ac eraill. Mae’r rhan fwyaf o waedlif trwyn yn gwella gyda chymorth cyntaf gartref. Bydd gwaedlif trwyn nad yw’n cael ei ddatrys gyda thriniaeth ar ôl 10 i 15 munud angen triniaeth frys yn yr ysbyty. Gall hyn gynnwys “pacio” trwynol neu serio. Gall pacio trwynol fod yn anghysurus, fel arfer bydd angen mynd i’r ysbyty er mwyn arsylwi arno ac mae angen ei dynnu gan glinigwr, a all weithiau achosi ail-waedu.
Brand o ddeunydd pacio trwynol sy’n defnyddio deunyddiau ‘hydawdd’ yw Floseal. Nid oes angen arsylwi arno na’i dynnu allan. Oherwydd hyn, ni fydd angen i gleifion fynd i’r ysbyty.
Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth yn ymwneud â defnydd Floseal i drin gwaedlif trwyn acíwt. Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu matrics gwaedataliol gelatin-thrombin Floseal fel opsiwn triniaeth mewn pobl sydd â gwaedlif trwyn acíwt.
Canllaw
GUI058 05.2024
Adroddiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR058 05.2024
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER470 09.2023 (superseded by EAR058 05.2024)