Llunio mannau radiotherapi (amlinellu) i dargedu’r nodau lymff uwchben y claficl

Statws Testun Cyflawn

Llunio mannau radiotherapi (amlinellu) i dargedu'r nodau lymff uwchben y claficl, ar gyfer cleifion sydd angen triniaeth ranbarthol-leol yn ogystal â radiotherapi'r fron.

Crynodeb

 

Paratowyd yr adroddiad hwn gan Technoleg Iechyd Cymru a Cedar (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro) ar ran Canolfan Ganser Felindre. Mae’n crynhoi’r dystiolaeth gyfredol ar y dechnoleg o ddiddordeb i gefnogi blaenoriaethu trafodaethau sy’n ymwneud â gweithredu gweithdrefnau/technegau radiotherapi yng Nghanolfan Ganser Felindre.