CBX ynni isel (Contact X-ray Brachytherapy)
Statws Testun Anghyflawn
CXB (Contact X-ray Brachytherapy) i drin canser y rectwm cam cynnar
Canlyniad yr arfarniad
Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu bracitherapi pelydr-x cyswllt (CXB) fel mater o drefn yn ogystal â chemoradiotherapi ar gyfer pobl â chanser rhefrol cam cynnar sy’n addas ar gyfer llawdriniaeth.
Mae defnyddio hwb CXB yn cynyddu cyfraddau ymateb i driniaethau a chadwraeth organau ac yn lleihau’r angen am lawdriniaeth ddilynol o’i gymharu â hwb radiotherapi pelydr allanol.
Mae modelu economaidd yn awgrymu bod hwb CXB yn gost-effeithiol o gymharu â hwb pelydr allanol, gydag ICER o £4,463 fesul QALY a enillir.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Mae canser rhefrol yn cyfrif am tua thraean o ganserau’r colon a’r rhefr, sef un o’r canserau mwyaf cyffredin yng Nghymru. Fel arfer caiff ei drin â llawdriniaeth a chemoradiotherapi. Gall llawdriniaeth arwain at yr angen am stoma, sy’n cael effaith hirdymor sylweddol ar ansawdd bywyd person. Mae diddordeb mewn rheolaeth heb lawdriniaeth canser rhefrol cam cynnar ar gynnydd. Un opsiwn sy’n cael ei archwilio yw defnyddio bracitherapi pelydr-x cyswllt (CXB). Math o radiotherapi a ddarperir yn lleol yw hwn sy’n cael ei roi drwy diwb wedi’i osod yn y rectwm.
Gellir rhoi’r driniaeth hon mewn canser rhefrol cam cynnar fel hwb radiotherapi lleol ochr yn ochr â chemoradiotherapi safonol, a’r gobaith yw y bydd yn osgoi’r angen am lawdriniaeth a stoma. Os yw hyn yn wir, yna gallai triniaeth wella ansawdd bywyd yn sylweddol a lleihau costau ymyriadau llawfeddygol a gofal hirdymor i bobl a fyddai fel arall angen stoma.
Cynigiwyd y pwnc gan oncolegydd clinigol ymgynghorol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe.
Crynodeb mewn iaith glir
Mae canser yn gyflwr lle mae celloedd mewn rhan benodol o’r corff yn tyfu ac yn atgynhyrchu’n afreolus gan arwain at diwmor, neu groniad mawr o gelloedd. Gall y celloedd canseraidd ymledu a dinistrio meinwe iach sydd o’u hamgylch, gan gynnwys organau. Mae canser rhefrol yn ganser sy’n dechrau yn y rectwm, neu ran isaf y coluddyn mawr sy’n cysylltu â’r colon.
Caiff canser rhefrol fel arfer ei drin â llawdriniaeth. Gellir rhoi cemoradiotherapi (cyfuniad o gemotherapi a radiotherapi) cyn neu ar ôl llawdriniaeth. Mae cemotherapi yn feddyginiaeth y gellir ei chymryd fel tabled neu ei rhoi yn y gwythiennau drwy weithdrefn IV yn yr ysbyty. Mae radiotherapi yn defnyddio ymbelydredd i ladd neu reoli twf celloedd canseraidd. Gall llawdriniaeth arwain at yr angen am stoma. Stoma yw pan fydd gwastraff y corff yn cael ei dynnu o’r colon drwy agoriad a wneir yn wal yr abdomen, neu’r bol. Mae gwastraff y corff yn mynd trwy’r stoma i fag crwn neu hirgrwn sy’n cael ei wisgo. Gall stoma fod dros dro neu’n barhaol. Gall cael stoma gael effaith sylweddol ar fywyd bob dydd a lles person.
Mae bracitherapi pelydr-x cyswllt (CXB) ynni isel yn fath o radiotherapi y gellir ei roi ochr yn ochr â chemoradiotherapi safonol fel ‘hwb’ radiotherapi. Ar gyfer canser rhefrol cam cynnar, gall cael CXB wella’r canlyniadau cemoradiotherapi ddigon fel na fydd angen llawdriniaeth – a’i sgîl-effeithiau, fel stoma – o bosibl.
Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar y defnydd o CXB ar gyfer canser rhefrol cam cynnar. Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu bracitherapi pelydr-x cyswllt (CXB) fel mater o drefn yn ogystal â chemoradiotherapi ar gyfer pobl â chanser rhefrol cam cynnar sy’n addas ar gyfer llawdriniaeth.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER419 04.2023
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR053 11.2023
Canllaw
GUI053 11.2023