Dyfais Cywasgu Mecanyddol y Frest

Statws Testun Cyflawn

Dyfais cywasgu mecanyddol y frest i’w ddefnyddio gan y gwasanaeth ambiwlans i drin oedolion sydd yn cael ataliad y galon sydd ddim yn ddifrifol y tu allan i’r ysbyty.

Canlyniad yr arfarniad

 

Mae HTW yn cynghori nad ydy defnyddio dyfeisiau cywasgu mecanyddol y frest fel mater o drefn ar draws y gwasanaeth ambiwlans yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth ar hyn o bryd.

Canlyniad yr arfarniad

 

Gofynnodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i Technoleg Iechyd Cymru gefnogi gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth ynghylch a ddylid defnyddio dyfeisiau cywasgu mecanyddol y frest fel mater o drefn ar draws y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru.

Ystyriwyd ailasesu’r canllawiau hyn ym mis Rhagfyr 2021.  Ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid a chwilio am lenyddiaeth wedi’i diweddaru, daeth ein Grŵp Asesu i’r casgliad nad yw’r dystiolaeth gyfredol yn debygol o newid yr argymhellion presennol ac felly, i beidio â bwrw ymlaen gyda’r ailasesiad ar hyn o bryd.

Crynodeb mewn iaith glir

 

Mae HTW wedi profi dyfeisiau cywasgiad mecanyddol y frest er mwyn helpu i benderfynu a ddylent fod ar gael i wasanaethau ambiwlans yn y GIG yng Nghymru.

Mae’r cyfraddau goroesi yn isel ar gyfer pobl sy’n dioddef ataliad y galon pan nad ydynt yn yr ysbyty ac angen cael eu dadebru. Bydd parafeddygon yn ceisio cadw’r galon i guro, fel arfer drwy wasgu i lawr dro ar ôl tro ar frest y claf. Bwriedir i ddyfeisiau cywasgiad mecanyddol y frest wneud hyn tra bod y claf yn cael ei gludo i’r ysbyty.

Daethpwyd i’r casgliad nad oedd dyfeisiau mecanyddol yn gwella cyfraddau goroesi ac nad ydynt yn rhoi gwerth am arian. Efallai y gallai’r dyfeisiau hyn fod yn ddefnyddiol ar gyfer cleifion na ellir eu cludo i’r ysbyty yn gyflym, ond mae angen rhagor o ddata er mwyn cadarnhau hyn.

Nid yw Canllaw HTW yn cefnogi defnydd y dyfeisiau fel mater o drefn gan y gwasanaeth ambiwlans.

Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth

EAR001 02.2018

Canllaw

GUI001 04.2018

Ystyriwyd ailasesu’r canllawiau hyn ym mis Rhagfyr 2021.  Ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid a chwilio am lenyddiaeth wedi’i diweddaru, daeth ein Grŵp Asesu i’r casgliad nad yw’r dystiolaeth gyfredol yn debygol o newid yr argymhellion presennol ac felly, i beidio â bwrw ymlaen gyda’r ailasesiad ar hyn o bryd.

Access our guidance

Our advice documents are free to download, but we would be grateful if you could help us improve our services by telling us why you are looking at our advice and how you intend to use it.

  • bod posibiliad yr hoffem gysylltu â chi drwy e-bost i gael gwybod mwy am sut y gwnaethoch chi ddefnyddio'r dogfennau.

  • This field is for validation purposes and should be left unchanged.