Monitro Glwcos yn Barhaus mewn Beichiogrwydd
Statws Testun Cyflawn
Systemau monitro glwcos yn barhaus er mwyn rheoli diabetes mewn menywod beichiog.
Canlyniad yr arfarniad
Mae’r achos dros fonitro glwcos yn barhaus mewn menywod beichiog sydd â diabetes math 1 yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth.
Mae monitro glwcos yn barhaus yn ystod beichiogrwydd yn gwella rheoli glycemia, ac yn lleihau nifer yr achosion o gyneclampsia yn y fam, o’i gymharu â hunanfonitro’r glwcos yn y gwaed. Mae monitro glwcos yn barhaus yn lleihau hypoglycemia ymysg y newydd-anedig, a’r angen iddynt orfod mynd i uned gofal dwys i’r newydd-anedig, a hyd yr arhosiad hwnnw.
Mae modelu costau yn amcangyfrif y bydd monitro glwcos yn barhaus mewn mamau sydd â diabetes math 1, yn arwain at arbed £1,029 fesul beichiogrwydd, o’i gymharu â hunanfonitro glwcos yn y gwaed, gyda’r arbedion o ran costau yn bennaf oherwydd lleihad yn nifer y babanod sydd yn gorfod mynd i’r uned gofal dwys i’r newydd-anedig.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Mae gan fenywod beichiog sydd â diabetes math 1 risg uwch o gamesgoriad, cyneclampsia a geni cyn amser. Mae babanod a gaiff eu geni i famau sydd â diabetes math 1 yn fwy tebygol o fod yn farwanedig neu i gael ystod eang o broblemau meddygol yn dilyn esgoriad. Credir bod rheolaeth dynn ar lefelau glwcos yng ngwaed y fam yn ystod beichiogrwydd yn lleihau’r risgiau hyn i’r fam a’r babi. Mae’r broses monitro glwcos parhaus yn defnyddio synhwyrydd a osodir ar ran uchaf y fraich, ac a wisgir yn allanol gan y defnyddiwr, fel y gellir monitro gwybodaeth am glwcos yn y gwaed yn barhaus, ac felly helpu’r defnyddiwr a’r tîm clinigol i gael y rheolaeth orau bosibl ar glwcos.
Crynodeb mewn iaith glir
Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) wedi asesu gweithdrefn o’r enw monitro glwcos yn barhaus, i helpu i benderfynu a ddylai fod ar gael i GIG Cymru ar gyfer menywod beichiog sydd â diabetes math 1.
Mae menywod sydd â diabetes yn wynebu mwy o risgiau a chymhlethdodau yn ystod beichiogrwydd. Gall lefelau uchel o siwgr yn y gwaed arwain at fwy o risg o ddifrodi’r baban. Ar hyn o bryd, mae lefelau’r siwgr yn y gwaed yn cael eu monitro drwy hunanfonitro’r glwcos yn y gwaed drwy bricio top y bys gyda nodwydd, neu drwy ddefnyddio monitor “fflach”, lle mae’n rhaid i synhwyrydd gael ei ddarllen gan sganiwr cyn bod lefel y siwgr y gwaed yn cael ei ddarganfod.
Mae monitro glwcos yn barhaus yn golygu y gellir gweld lefelau’r siwgr yn y gwaed drwy’r amser, a’i ddefnyddio i benderfynu ar y driniaeth. Mae ganddo’r potensial i leihau’r peryglon a’r cymhlethdodau sy’n dod gyda diabetes yn ystod beichiogrwydd.
Mae canllawiau HTW yn cefnogi monitro glwcos yn barhaus ar gyfer menywod beichiog sydd â diabetes math 1. Mae’r dystiolaeth yn dangos ei fod yn gwella’r broses o reoli lefelau’r siwgr yn y gwaed, ac yn lleihau’r cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â lefelau uchel o siwgr yn y gwaed yn ystod beichiogrwydd. Oherwydd bod cost rhai cymhlethdodau yn cael ei hosgoi, rhagwelir y byddai monitro glwcos yn barhaus yn arbed arian hefyd.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER058 08.2019
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR012 10.2019
Canllaw
GUI012 10.2019