Peptidau natriuretig i gadarnhau a diystyru diagnosis o fethiant aciwt y galon ymhlith oedolion mewn lleoliad adran brys
Topic Status Complete
Peptidau natriuretig i gadarnhau a diystyru diagnosis o fethiant aciwt y galon ymhlith oedolion mewn lleoliad adran brys
Canlyniad yr arfarniad
Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu fel mater o drefn fesur peptid natriuretig N-terminal pro B-type (NT-proBNP) i gadarnhau a diystyru methiant aciwt y galon ymhlith oedolion sy’n cyrraedd yr adran brys lle bydd amheuaeth clinigol o’r diagnosis hwn.
Gallai ychwanegu mesur NT-proBNP at asesiad cinigol mater o drefn leihau hyd arhosiad yn yr ysbyty a’r gyfradd ail-dderbyn i’r ysbyty.
Dangosodd modelu economeg iechyd mai NT-proBNP i gadarnhau neu ddiystyru methiant aciwt y galon oedd y strategaeth mwyaf cost effeithiol.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?”)
Methiant aciwt y galon (AHF) yw rheswm mwyaf cyffredin derbyniadau brys i’r ysbyty yng Nghymru a Lloegr ymhlith oedolion sy’n hŷn na 65 oed, ac mae cyffredinrwydd hyn yn cynyddu o ganlyniad i boblogaeth sy’n heneiddio. Gall AHF fod yn anodd ei ddiagnosio gan fod y symptomau’n aml yn gorgyffwrdd â chyflyrau aciwt eraill ac yn aml bydd gan gleifion sydd ag AHF gydafiachedd.
Nid oes un prawf diagnostig ar gyfer methiant y galon. Mae diagnosis yn dibynnu ar gyfuniad o asesiad clinigol, delweddol a biogemegol. Mae profi am bresenoldeb lefelau uwch o beptidau natriuretig, megis NT-proBNP a BNP, yn hwyluso diagnosis AHF er y gall cyflyrau eraill hefyd arwain at lefelau cynyddol o’r proteinau hyn.
Mae canllawiau AHF (2014) Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell mesur BNP neu NT-proBNP er mwyn diystyru AHF, ond nid ydynt yn gwneud unrhyw argymhellion ar gyfer cadarnhau AHF. Gallai strategaeth i ddefnyddio BNP neu NT-proBNP i gadarnhau yn ogystal â diystyru AHF ganiatáu ar gyfer targedu ymchwiliadau yn well yn ogystal â chael diagnosis a thriniaethau yn gynt, a allai arwain at well canlyniadau clinigol a defnydd o adnoddau gofal iechyd.
Mae HTW wedi darganfod y pwnc hwn drwy HealthTechConnect
Crynodeb mewn iaith glir
Bydd methiant y galon yn digwydd pan na fydd y galon yn gallu pwmpio gwaed yn iawn o amgylch y corff. Mae hyn yn golygu nad yw’r corff yn cael yr ocsigen sydd ei angen arno a gall hyn weithiau arwain at brinder anadl, blinder a gall achosi gormod o hylif i gasglu yn y corff, gan achosi chwyddo o amgylch y pigyrnau, y traed a’r stumog. Mae methiant y galon yn gyflwr sy’n peryglu bywyd. Gall gael ei achosi gan ddifrod i gyhyr y galon, un o falfiau’r galon ddim yn gweithio’n iawn, rhythm annormal i’r galon a rhesymau eraill.
Caiff methiant y galon ei ddiagnosio gan ddefnyddio barn glinigol yn seiliedig ar gyfuniad o hanes y claf, archwiliad corfforol, profion gwaed, electrocardiogramau (ECGs), profion pelydr-x y frest ac ecocardiogramau Gall fod yn anodd i’w ddiagnosio gan fod gan bobl sy’n dioddef o fethiant y galon yn aml fathau eraill o salwch sydd â’r un symptomau.
Moleciwlau sy’n ymddangos yn naturiol ac y gellir eu gweld mewn profion gwaed yw bioddangosyddion. Gall presenoldeb bioddangosydd penodol mewn prawf gwaed fod yn arwydd o’r hyn sy’n digwydd yn organau/corff unigolyn. Mae peptid natriuretig N-terminal pro B-type (NT-proBNP) a peptid natriuretig B-type (BNP) yn fioddangosyddion a ryddheir o’r galon pan fydd waliau’r galon yn cael eu hymestyn.
Chwiliodd HTW am dystiolaeth y gellid defnyddio NT-proBNP neu BNP fel bioddangosyddion i gadarnhau a diystyru diagnosis o fethiant aciwt y galon. Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu fel mater o drefn fesur NT-proBNP i gadarnhau a diystyru diagnosis o fethiant aciwt y galon ymhlith oedolion mewn lleoliad adran brys ysbyty.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER170 12.2019
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR026 09.2021
Arweiniad
GUI026 09.2021