Profion ffarmacogenetig rhagbrofol (PGx) yn defnyddio panel o enynnau i arwain triniaeth a lleihau adweithiau niweidiol i gyffuriau.
Statws Testun Cyflawn
Ffarmacogenetig (y cyfeirir ato hefyd fel ffarmacogenomeg; PGx) yw'r astudiaeth o sut mae genynnau person yn effeithio ar eu hymateb i feddyginiaethau. Gall gwahaniaethau mewn genynnau arwain at y ffaith bod meddyginiaeth benodol yn effeithiol i rai pobl, ond nid i eraill. Yn yr un modd, efallai mai dyma'r rheswm pam mae rhai pobl yn profi sgîl-effeithiau (neu adweithiau niweidiol) i feddyginiaeth, tra nad yw eraill yn profi hyn.
Crynodeb
Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar effeithiolrwydd clinigol a chost profion rhagbrofol yn defnyddio panel PGx i arwain triniaeth a lleihau adweithiau niweidiol i gyffuriau.
Penderfynodd Grŵp Asesu HTW i beidio â symud y pwnc hwn ymlaen ymhellach, oherwydd diffyg tystiolaeth o effeithiolrwydd ar hyn o bryd.