Profion ymarfer cardiopwlmonarI
Statws Testun Cyflawn
Profion ymarfer cardiopwlmonari cyn llawdriniaeth ar gyfer pobl y bwriedir cynnal llawdriniaeth abdomenol fawr arnynt.
Canlyniad yr arfarniad
Mae profion ymarfer cardio-anadlol (CPET) yn dangos addewid pan y’u defnyddir i lywio gwneud penderfyniadau cyn llawdriniaeth abdomenol fawr. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod defnyddio CPET yn ogystal ag asesiad risg safonol yn gwella’r gwaith o nodi cleifion sydd mewn perygl cynyddol o afiachedd a marwolaeth cysylltiedig â llawdriniaeth ac mae’n hwyluso’r gwaith o gynllunio gofal amdriniaethol. Mae’r dystiolaeth felly’n cefnogi’n rhannol fabwysiadu CPET ar gyfer pobl sy’n cael llawdriniaeth abdomenol fawr.
Argymhellir ymchwil pellach er mwyn diffinio effaith CPET ar ganlyniadau clinigol, profiad cleifion ac effeithiolrwydd cost o gymharu ag asesiad risg safonol yn unig mewn pobl sy’n cael llawdriniaeth abdomenol fawr.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Mewn pobl sy’n cael sy’n cael llawdriniaeth abdomenol fawr, mae’n bwysig canfod y rheini sydd â’r risg mwyaf o ddatblygu cymhlethdodau fel y gellir gwneud penderfyniadau cywir ynglŷn â thriniaeth a sicrhau’r rheolaeth orau dros gyfnod y llawdriniaeth. Mae asesiad risg safonol yn cynnwys defnyddio gwybodaeth glinigol a gwybodaeth profion syml. Gellir ychwanegu profion ymarfer cardio-anadlol (CPET) at yr asesiad risg safonol er mwyn mesur ffitrwydd a gallu cardio-anadlol wrth gefn ac felly mireinio’r broses gwneud penderfyniadau. Mae tystiolaeth yn cefnogi defnydd CPET i nodi cleifion sydd â’r risg mwyaf o farw neu ddioddef cymhlethdodau difrifol wrth gael llawdriniaeth abdomenol fawr ac mae’r wybodaeth ychwanegol a geir gyda CPET yn caniatáu ar gyfer cynllunio gofal dros gyfnod y llawdriniaeth. Mae llai o dystiolaeth ar gael sy’n diffinio effaith defnyddio CPET ar ganlyniadau clinigol, profiad cleifion neu gost llawfeddygaeth felly argymhellir astudiaethau pellach er mwyn egluro’r materion hyn.
Mae’r defnydd o CPET cyn llawdriniaeth abdomenol fawr yn cynyddu yn GIG Cymru, ac arfarnodd Technoleg Iechyd Cymru y pwnc hwn er mwyn cynorthwyo i lywio defnydd seiliedig ar dystiolaeth y dechnoleg hon. Cyflwynwyd y pwnc hwn i Technoleg Iechyd Cymru gan Dr Anthony Funnel, Anesthetydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Crynodeb mewn iaith glir
Mae ymateb i lawdriniaeth fawr yn rhoi straen ar y corff. Golyga hyn ei fod yn defnyddio mwy o ocsigen na’r arfer ac felly mae angen mwy o ocsigen arno. Mae pa mor dda y gall person ddiwallu’r galw ychwanegol hwn effeithio ar pa mor dda y mae’n debygol o wella wedi llawdriniaeth. Mae pobl sy’n gorfforol ffit yn fwy tebygol o ymateb yn well i’r galw, gan fod eu calon a’u hysgyfaint yn gweithredu’n well.
Dull ar gyfer mesur perfformiad y galon a’r ysgyfaint pan fyddant yn gorffwys a hefyd wrth wneud ymarfer corff yw profion ymarfer cardio-anadlol (CPET). Bydd hyn yn dangos pa mor dda y gall y galon a’r ysgyfaint ymateb i’r cynnydd yn y galw am ocsigen. Awgrymir y gellir defnyddio’r mesuriadau hyn wedyn i helpu i gynllunio gofal claf wrth adsefydlu.
Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth y gall cynnal CPET ragfynegi sut y bydd pobl yn adsefydlu wedi llawdriniaeth abdomenol fawr. Ar hyn o bryd mae CPET yn cael ei ddefnyddio mewn nifer o ysbytai yng Nghymru ac mae nifer o wahanol fesuriadau y gellir eu gwneud yn ystod CPET. Mae’r dystiolaeth hon yn awgrymu y gellir defnyddio rhai mesuriadau CPET er mwyn helpu i ragfynegi sut y bydd claf yn adsefydlu wedi llawdriniaeth, ond mae’r adroddiadau am hyn yn amrywio ar draws gwahanol fathau o lawfeddygaeth. Nid oes fawr o dystiolaeth ynglŷn â pha wahaniaeth y mae ychwanegu CPET at ofal safonol yn ei wneud.
Mae’r dystiolaeth felly’n cefnogi’n rhannol fabwysiadu CPET ar gyfer pobl sy’n cael llawdriniaeth abdomenol fawr, fodd bynnag argymhellir ragor o ymchwil.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER074 11.2019
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR016 07.2020
Canllaw
GUI016 07.2020
Access our guidance
Our advice documents are free to download, but we would be grateful if you could help us improve our services by telling us why you are looking at our advice and how you intend to use it.