Prostheteg aml-afael ar gyfer y breichiau
Statws Testun Cyflawn
Prostheteg myodrydanol aml-afael ar gyfer y breichiau.
Canlyniad yr arfarniad
Mae’r dystiolaeth ar ddefnydd dyfeisiau prostheteg myodrydanol aml-afael yn y breichiau gan bobl sydd â gwahaniaeth yn y breichiau yn parhau i fod yn annigonol i gefnogi eu
mabwysiadu fel mater o drefn.
Mae manteision prostheteg myodrydanol aml-afael yn y breichiau o’i gymharu â mathau eraill o brostheteg ar gyfer gwahaniaeth yn y breichiau yn ansicr, a dylai eu defnydd
presennol gael ei bennu gan ofynion cleifion unigol.
Mae Technoleg Iechyd Cymru yn argymell caffael data ar brofiad cleifion a chanlyniadau cleifion unigol ar gyfer y rheini sydd â mynediad at y technolegau hyn.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Gellir darparu dyfeisiau prostheteg yn y breichiau i bobl sydd wedi cael trychiad braich neu sy’n gynhenid â braich fyrrach i adfer rhywfaint o weithrediad y llaw neu’r fraich goll. Mae’r gofal
safonol presennol yn ymwneud â darparu dyfais oddefol (cosmetig) i bobl neu ddyfais agor-cau syml (un gafael) a bwerir gan y corff. Nid yw dyfeisiau sy’n cael eu rheoli gan fodur trydan sy’n
ymateb i signalau electromyograffig yn y system gyhyrol sy’n weddill (myodrydanol) ar gael fel mater o drefn yng Nghymru.
Mae prostheteg myodrydanol yn y breichiau yn rhoi mwy o amrywiaeth o batrymau gafael na phrostheteg myodrydanol un gafael neu brostheteg wedi’i bweru gan y corff ac felly mae
ganddynt y potensial i roi mwy o weithrediad i ddefnyddwyr.
Ailasesiad o’r technolegau hyn yw hwn, a aseswyd gan HTW gyntaf yn 2019 (EAR014), ac a awgrymwyd yn wreiddiol gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.
Crynodeb mewn iaith glir
Mae gwahaniaeth yn y breichiau yn cynnwys:
- cael eich geni gyda rhannau o’r fraich ar goll neu wedi’u ffurfio’n anghywir
- trychiadau – tynnu rhan o’r corff neu aelod o’r corff drwy lawdriniaeth.
Gall gwahaniaethau yn y breichiau gynnwys y breichiau eu hunain, y dwylo a’r bysedd. Dyfais brosthetig yw braich artiffisial a wneir i gymryd lle’r un a dynnwyd neu sydd ar goll. Prostheteg myodrydanol yw breichiau artiffisial sy’n defnyddio’r signalau trydan o gyhyrau’r defnyddiwr ei hun i weithio. Gall y rhain fod yn rai un-gafael neu’n aml-afael. Mae prostheteg myodrydanol aml-afael yn caniatáu i ddefnyddwyr reoli pob bys o’r llaw ar wahân. Mae hyn yn caniatáu i’r ddyfais brosthetig gael ei defnyddio mewn mwy o ffyrdd.
Edrychodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd prostheteg myodrydanol aml-afael yn y breichiau i’w defnyddio gan bobl sydd â gwahaniaeth yn y breichiau. Nid oes yn dal ddigon o dystiolaeth yn y maes hwn i gefnogi mabwysiadu’r technolegau hyn fel mater o drefn. Mae manteision prostheteg myodrydanol aml-afael yn y breichiau o gymharu â mathau eraill o brostheteg ar gyfer gwahaniaeth yn y breichiau yn ansicr. Dylai eu defnydd presennol gael ei bennu gan ofynion cleifion unigol. Mae Technoleg Iechyd Cymru yn argymell casglu mwy o ddata ar brofiad cleifion a chanlyniadau cleifion unigol ar gyfer y rhai sydd â mynediad at y technolegau hyn.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER108 09.2019
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR014 09.2023
Canllaw
GUI014 09.2019
Mae hwn yn fersiwn wedi’i ddiweddaru o arfarniad. Cyhoeddodd HTW Ganllaw ar y pwnc hwn yn wreiddiol ym mis Medi 2019 . Os hoffech weld y Canllaw a’r dogfennau ategol o’r arfarniadau blaenorol, cysylltwch â HTW.