Radiodraswyr tomograffeg gollwng positronau (PET) antigen pilen prostadbenodol (PSMA) galiwm neu fflworin
Topic Status Complete
Radiodraswyr tomograffeg gollwng positronau (PET) antigen pilen prostadbenodol (PSMA) galiwm neu fflworin mewn ymchwilio i ganser y prostad dychweliadol.
Canlyniad yr arfarniad
Mae mabwysiadu 68Ga PSMA PET ar gyfer diagnosio canser y prostad dychweliadol yn cael ei gefnogi’n rhannol gan y dystiolaeth. Mae defnyddio 68Ga PSMA PET yn darparu lefel uchel o gywirdeb diagnostig, y dylid seilio’r dewisiadau o driniaeth arnynt, o’u cymharu â thraswyr confensiynol. Fodd bynnag, nid oes llawer o dystiolaeth sy’n cymharu 68Ga PSMA PET i draswyr eraill, ac mae ceisio amcangyfrif y gost o ddefnyddio 68Ga PSMA PET ar gyfer ymchwilio i ganser y prostad posib yn gymhleth ac yn ansicr. Felly, argymhellir 68Ga PSMA PET os gellir darparu’r gwasanaeth heb unrhyw gostau uwch na’r gofal safonol presennol.
Nid yw mabwysiadu 18F PSMA PET ar gyfer diagnosio canser y prostad dychweliadol yn cael ei gefnogi gan y dystiolaeth.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Gall llawer o ddynion sydd wedi cael eu trin ar gyfer canser y prostad ddatblygu’r canser eto ar adeg sy’n amrywio, ar ôl eu triniaeth gychwynnol. Gellir darganfod hyn o ganlyniad i symptomau newydd neu drwy ganlyniadau profion biocemegol. Pan fydd hyn yn digwydd, mae darganfod y canser yn gynnar a’r union safle ble mae’r canser wedi dychwelyd yn hanfodol er mwyn gallu gwneud penderfyniadau priodol pellach ynghylch triniaeth. Mae radiodraswyr PSMA PET wedi cael eu datblygu i wella cywirdeb y diagnosis o ganser y prostad dychweliadol.
Ystyriwyd ailasesu’r canllawiau hyn ym mis Rhagfyr 2021. Ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid, daeth ein Grŵp Asesu i’r casgliad i beidio â bwrw ymlaen gyda’r ailasesiad ar hyn o bryd.
Crynodeb mewn iaith glir
Asesodd HTW PET PSMA fflworin neu galiwm er mwyn helpu i benderfynu a ddylai fod ar gael i’r GIG yng Nghymru er mwyn diagnosio canser y prostad posibl sy’n ailddigwydd.
Pan fydd dynion yn dioddef ail-ddigwyddiad o ganser y prostad, mae’n bwysig dod i ddeall lle’n union y mae’r canser wedi ail-ddigwydd a hynny mor gywir â phosibl. Un prawf y gellir ei ddefnyddio ar gyfer hyn yw sgan PET, lle defnyddir traswr sy’n helpu i wahaniaethu rhwng meinwe canseraidd a meinwe normal.
Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod traswyr PET PSMA galiwm yn fwy cywir na traswyr PET seiliedig ar golin ar gyfer canfod canser y prostad sy’n ailddigwydd a bod hyn yn debygol o arwain at wneud gwell penderfyniadau ynglŷn â sut y caiff y canser ei drin. Mae’n anodd amcangyfrif cyfanswm y gost oherwydd bod angen ystyried nifer o ffactorau ac oherwydd diffyg ymchwil sydd wedi’i gyhoeddi.
Yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael, mae Canllaw HTW yn cefnogi denfydd PET PSMA galiwm dim ond os nad yw’n ddrytach na’r gofal safonol presennol. Fodd bynnag, nid oes digon o dystiolaeth i gefnogi defnydd PET PSMA fflworin.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER004 06.2018
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR005 01.2019
Arweiniad
GUI005 01.2019
Ystyriwyd ailasesu’r canllawiau hyn ym mis Rhagfyr 2021. Ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid, daeth ein Grŵp Asesu i’r casgliad i beidio â bwrw ymlaen gyda’r ailasesiad ar hyn o bryd.