Radiotherapi abladol stereotactig (SABR)

Statws Testun Cyflawn

Radiotherapi abladol stereotactig (SABR) i drin carcinoma celloedd yr arennnau

Canlyniad yr arfarniad

 

Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu radiotherapi abladol stereotactig (SABR) fel mater o drefn i drin pobl â chanser yr arennau sylfaenol nad ydynt yn addas ar gyfer llawdriniaeth neu dechnegau abladol eraill.

Mae defnyddio SABR yn rhoi opsiwn triniaeth a allai wella goroesiad cleifion na fyddai ganddynt unrhyw opsiynau eraill o ran triniaeth. Tîm canser amlddisgyblaethol ddylai ddewis cleifion ar gyfer SABR.

Mae modelu economaidd yn amcangyfrif bod defnydd SABR yn gost-effeithiol o’i gymharu â gwyliadwriaeth glinigol, gyda chost fesul blwyddyn bywyd wedi ei haddasu yn ôl ansawdd (QALY) o £1,675.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Mae canser yr arennau’n datblygu pan fydd celloedd annormal yn y naill aren neu’r llall yn dechrau rhannu a thyfu mewn ffordd na ellir ei reoli. Mae’r arfarniad hwn yn canolbwyntio ar ganser nad yw wedi lledaenu y tu allan i’r aren.

Llawfeddygaeth yw’r gofal safonol ar gyfer trin canser yr arennau ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae gan lawer o gleifion hŷn gyd-afiachedd, a all eu gwneud yn anaddas ar gyfer llawdriniaeth fawr. Mae therapïau abladol sy’n creu archoll mor fach â phosib, yn ymwneud ag oerfel neu wres eithafol i dynnu’r tiwmor (megis cryotherapi, abladiad radioamledd ac abladiad microdon), yn opsiynau triniaeth posibl i gleifion sy’n anaddas ar gyfer llawdriniaeth neu sy’n gwrthod llawdriniaeth. Fodd bynnag, mae’r therapïau hyn wedi’u cyfyngu i diwmorau arennau llai sy’n bell o strwythurau fasgwlaidd. Defnyddir gwyliadwriaeth weithredol (arsylwi) yn gyffredin mewn pobl oedrannus, eiddil sydd â chanser yr arennau gyda thiwmorau bach sy’n llai na phedwar centimetr. Fodd bynnag, efallai y bydd gwyliadwriaeth weithredol angen ymyrraeth oedi, a sbardunir yn aml gan dyfiant tiwmor.

Mae SABR yn fath o radiotherapi allanol, sy’n defnyddio pelydrau ymbelydredd llai a theneuach na radiotherapi safonol. Mae’n anfon pelydrau ymbelydredd manwl gywir ar ddwysedd amrywiol dan arweiniad systemau delweddu soffistigedig sy’n tracio union leoliad tri dimensiwn tiwmor. Mae manwl gywirdeb o’r fath yn caniatáu i ddosau uchel o ymbelydredd gael eu hanfon at y tiwmor tra’n lleihau’r difrod i’r meinwe iach o’i amgylch. Gellir rhoi SABR gyda llai o driniaethau na radiotherapi safonol ac mae’n opsiwn triniaeth anfewnwthiol a ddarperir mewn lleoliad cleifion allanol heb fod angen anesthetig cyffredinol, sy’n golygu nad oes angen i’r claf aros yn yr ysbyty fel arfer.

Cynigiwyd y pwnc hwn gan Dr Jacob Tanguay, Oncolegydd Ymgynghorol, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

Crynodeb mewn iaith glir

 

Canser yr arennau, a elwir hefyd yn ganser arennol, yw un o’r mathau mwyaf cyffredin o ganser yn y DU. Mae fel arfer yn effeithio ar oedolion rhwng 60 a 70 oed, er y gall ddigwydd weithiau mewn oedolion iau na 50 oed. Mae sawl math gwahanol o ganser yr arennau. Ar gyfer yr adolygiad hwn, ystyriodd Technoleg Iechyd Cymru bobl â chanser yr arennau sylfaenol, sef canser nad yw eto wedi lledaenu y tu allan i’r arennau.

Caiff canser yr arennau ei drin fel arfer â llawdriniaeth i dynnu’r tiwmor. Fodd bynnag, ni all pawb gael llawdriniaeth mor fawr. Gall triniaethau amgen ddefnyddio dulliau nad ydynt mor ymwthiol â llawdriniaeth, megis defnyddio technegau ‘abladol’ sy’n defnyddio poeth ac oer i ddinistrio’r tiwmor. Math o radiotherapi allanol sy’n defnyddio llawer o belydrau ymbelydredd llai a theneuach na radiotherapi safonol yw radiotherapi abladol stereotactig (SABR). Mae SABR yn danfon pelydrau o ymbelydredd manwl gywir sy’n cael eu cyfeirio gan systemau delweddu sy’n tracio union leoliad tri dimensiwn tiwmor. Mae hyn yn caniatáu i ddosau uchel o ymbelydredd gael eu danfon i’r tiwmor tra’n lleihau’r difrod i feinwe iach. Gellir rhoi SABR gyda llai o driniaethau na radiotherapi safonol a gellir ei roi mewn lleoliad cleifion allanol heb anesthetig cyffredinol, sy’n golygu efallai na fydd angen i’r claf aros yn yr ysbyty.

Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ynglŷn â’r defnydd o radiotherapi abladol stereotactig (SABR) i drin pobl â chanser yr arennau sylfaenol. Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu SABR fel mater o drefn i drin pobl â chanser yr arennau sylfaenol nad ydynt yn addas ar gyfer llawdriniaeth neu dechnegau abladol eraill.

Adroddiad Archwilio Pwnc

TER286 06.2021

Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth

EAR038 04.2022

Dogfennau ychwanegol

Access our guidance

Our advice documents are free to download, but we would be grateful if you could help us improve our services by telling us why you are looking at our advice and how you intend to use it.

  • bod posibiliad yr hoffem gysylltu â chi drwy e-bost i gael gwybod mwy am sut y gwnaethoch chi ddefnyddio'r dogfennau.

  • This field is for validation purposes and should be left unchanged.