Uwchsain pwynt gofal i ddiagnosio clefyd cerrig bustl
Statws Testun Cyflawn
Uwchsain pwynt gofal i ddiagnosio clefyd cerrig bustl
Canlyniad yr arfarniad
Mae’r defnydd o uwchsain pwynt gofal (POCUS) cludadwy i ddiagnosio clefyd cerrig bustl yn dangos addewid, ond nid yw’r dystiolaeth bresennol yn ddigonnol i gefnogi ei fabwysiadu fel mater o drefn.
Mae astudiaethau hyd yma wedi ystyried yn bennaf gywirdeb diagnostig POCUS ond mae ansicrwydd yn dal i fod ynglŷn ag effeithiolrwydd POCUS pan y’i defnyddir ochr yn ochr ag archwiliadau eraill fel rhan o wneud penderfyniadau clinigol.
Oherwydd ansicwydd ynglŷn ag effeithiolrwydd clinigol, yn arbennig amser aros cyn derbyn sgan, ni ellid dod i farn ynglŷn â chanlyniadau economaidd posibl defnyddio POCUS.
Argymhellir ymchwil pellach i ddangos effeithiolrwydd clinigol ac o ran cost POCUS cludadwy mewn lleoliadau gofal brys ac aciwt.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Fel arfer mae cerrig bustl yn asymptomatig, ond mewn nifer fechan o achosion (2 i 4%) gall cerrig bustl gael eu dal yn system y bustl a gall achosi poen, llid a haint yn yr abdomen. Gall hyn arwain at gyflyrau mwy difrifol sy’n cynnwys llid y goden fustl, llwybr y bustl a’r pancreas, megis llid y bustl, llid y bustl dwys a llid y cefndedyn.
Bydd diagnosio cerrig bustl fel achos posibl poen yn yr abdomen mewn lleoliad gofal brys neu aciwt fel arfer yn golygu atgyfeiriad at adran radioleg ar gyfer uwchsain, a wneir gan dechnegydd achrededig. Gallai uwchsain pwynt gofal effeithiol leihau’r angen am atgyfeiriad i’r adran radioleg ac felly lleihau’r amser i ddiagnosio a thrin clefyd cerrig bustl a chyflyrau cysylltiedig.
Crynodeb mewn iaith glir
Cerrig bach yw cerrig bustl sy’n ffurfio yn y goden fustl o waddodion brasterog neu fineralaidd. Bydd y rhan fwyaf o bobl sydd â cherrig bustl yn cael dim symptomau, fodd bynnag ar gyfer rhai pobl gall y cerrig lidio’r goden fustl neu beri rhwystr mewn rhan o’r system ac achosi poen a haint. Gall hyn arwain at gyflyrau mwy difrifol a rhai a allai o bosibl beryglu bywyd.
Gall fod yn anodd diagnosio cerrig bustl. Bydd pobl sydd â symptomau o glefyd cerrig bustl fel arfer yn cael eu hatgyfeirio ar gyfer uwchsain a wneir gyda radioleg. Gwneir hyn fel arfer mewn adran radioleg a chaiff y canlyniadau eu dehongli gan radiolegydd.
Gallai uwchsain pwynt gofal (POCUS) leihau’r angen am atgyfeiriad radioleg ac felly byrhau’r amser i gael diagnosis a thriniaeth ar gyfer clefyd cerrig bustl. POCUS yw unrhyw fath o uwchsain a gynhelir yn, neu yn agos at, bwynt gofal gwreiddiol y claf. Gall hyn, er enghraifft, gynnwys clinigau cleifion allanol, adran damweiniau ac achosion brys, practisau meddygon teulu neu leoliadau cleifion allanol neu gymunedol eraill. Gall y weithdrefn uwchsain gael ei gwneud gan wahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae’r dyfeisiau hyn yn gludadwy a gallant fod yr un maint â gliniadur neu ffôn symudol.
Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ynglŷn ag effeithiolrwydd defnyddio uwchsain a ddelir yn y llaw neu gludadwy i gynorthwyo gyda diagnosis ymhlith pobl yr amheuir eu bod yn dioddef o glefyd cerrig bustl. Mae’r dystiolaeth a welwyd ar ddefnydd POCUS i ddiagnosio clefyd cerrig bustl yn addawol, ond nid yw’r dystiolaeth bresennol yn ddigonol i gefnogi mabwysiadu hyn fel mater o drefn.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER175 06.2020
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR029 03.2021
Canllaw
GUI029 03.2021