Systemau rheoli gwaed electronig

Statws Testun Cyflawn

Systemau rheoli gwaed electronig ar gyfer trallwysiadau gwaed; Bloodtrack

Canlyniad yr arfarniad

 

Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu systemau rheoli gwaed electronig (EBMS) fel mater o drefn i gefnogi trallwysiadau gwaed.
O’i chymharu â systemau papur, mae EBMS yn lleihau cyfraddau gwrthod samplau a gwastraff gwaed.
Mae dadansoddiad cost yn amcangyfrif y byddai defnyddio EBMS yn arwain at arbedion cost o £0.32 fesul person sy’n cael trallwysiad gwaed yn y flwyddyn gyntaf a £19.92 fesul person yn y blynyddoedd dilynol o gymharu â system bapur. Pe defnyddir y system ar gyfer pawb sy’n cael trallwysiad gwaed yn GIG Cymru, amcangyfrifir y byddai arbedion gwerth £1.9 miliwn dros gyfnod o ddwy flynedd.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Mae trallwysiad gwaed yn broses lle mae cydrannau gwaed (celloedd gwaed coch, celloedd gwaed gwyn, plasma, ffactorau ceulo, neu blatennau) yn cael eu rhoi yn fewnwythiennol i glaf. Mae gwallau yn y broses hon (cam-adnabod claf, ei sampl gwaed, neu’r gydran gwaed a fwriedir ar ei gyfer) yn peri risgiau sylweddol i gleifion ac mewn achosion lle mae gwaed yn anghydnaws â math gwaed y claf, gall arwain at adweithiau andwyol difrifol, sydd weithiau hyd yn angheuol. Yn draddodiadol, mae dulliau adnabod cleifion, a dilysu samplau a chydrannau gwaed gan/a fwriedir ar gyfer y claf cywir, wedi defnyddio gwiriadau â llaw ac ysgrifenedig ond mae EBMS yn
cynnal rhai neu bob un o’r gwiriadau hyn yn electronig, gan ddefnyddio dynodwyr unigryw (megis codau bar). Mae gwaith wedi dechrau ar brosiect Darganfod a Chwmpasu i archwilio’n fanylach sut y gellid gweithredu EBMS yng Nghymru.

Crynodeb mewn iaith glir

 

Mae trallwysiadau gwaed yn trallwyso gwaed yn uniongyrchol i wythiennau person. Mae trallwysiadau gwaed yn disodli gwaed sy’n cael ei golli drwy lawdriniaeth neu anaf. Maen nhw’n cael eu defnyddio hefyd, i roi gwaed os nad yw eich corff yn gwneud gwaed yn iawn. Mae gwaed ar gyfer trallwysiadau yn cael ei roi gan roddwyr iach. Mae’n bwysig bod person yn cael y teip cywir o waed wrth gael trallwysiad gwaed. Trallwyso’r teip anghywir o waed yw un o’r ddau brif achos sy’n achosi marwolaeth drwy drallwyso. Felly, mae’n bwysig sicrhau bod staff gofal iechyd yn gallu adnabod pobl yn gywir, er mwyn sicrhau bod y gwaed cywir yn cael ei roi iddynt cyn i’r trallwyso ddigwydd.

Mae systemau rheoli gwaed electronig yn defnyddio codau bar ar fand arddwrn y claf i gadarnhau pwy ydyn nhw, ac yn paru’r rhain â’r manylion ar y pecyn gwaed, i sicrhau bod y gwaed cywir yn cael ei roi i’r person cywir. Mae’r broses hon yn defnyddio dyfais sganio â llaw ac argraffydd symudol sy’n cael ei roi wrth ochr y claf. Mae’r ddyfais yn cofnodi samplau gwaed ac unedau gwaed, sy’n cael eu hamgodio i ddata adnabod y claf, fel eu henw, teip o waed ac ati.

Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar y defnydd o systemau rheoli gwaed electronig mewn lleoliadau lle mae trallwysiadau’n digwydd. Mae’r dystiolaeth yn dangos, o’i gymharu â systemau papur, fod systemau rheoli gwaed electronig yn lleihau cyfraddau gwrthod samplau gwaed a gwastraff gwaed. Argymhellir mabwysiadu systemau rheoli gwaed electronig fel mater o drefn i gefnogi trallwysiadau gwaed.

Adroddiad Archwilio Pwnc

TER 264 10.2021

Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth

EAR039 03.2022

Canllaw

GUI039 03.2022

GUI
Gweld PDF

Mae ein dogfennau cyngor yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho ond buasem yn ddiolchgar pe gallech ein helpu i wella ein gwasanaethau drwy ddweud wrthym pam eich bod chi’n edrych ar ein cyngor.

Hepgor y ffurflen a lawrlwytho ffeil Cau

    Efallai yr hoffem gysylltu â chi trwy e-bost i gael gwybod mwy am sut y gwnaethoch ddefnyddio'r dogfennau.