Teledermatoleg “storio ac anfon ymlaen”

Statws Testun Cyflawn

Teledermatoleg storio ac anfon ymlaen ar gyfer brysbennu atgyfeiriadau gofal sylfaenol

Crynodeb

 

Teledermatoleg storio ac anfon ymlaen yw’r broses lle mae gwybodaeth cleifion yn cael ei hanfon fel ffeiliau digidol at glinigwr mewn adran dermatoleg.

Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd defnyddio’r broses teledermatoleg storio ac anfon ymlaen ar gyfer brysbennu atgyfeiriadau gofal sylfaenol.

 

Yn seiliedig ar y dystiolaeth a ganfuwyd, daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad i beidio â symud y pwnc hwn ymlaen i’r cam arfarnu tystiolaeth.