Ffotobiofodyliad
Topic Status Complete
Ffotobiofodyliad ar gyfer atal a thrin mwcositis y geg sy'n gysylltiedig â thriniaeth canser
Canlyniad yr arfarniad
Mae ffotobiofodyliad ar gyfer atal neu drin mwcositis y geg ymhlith pobl sy’n derbyn triniaeth canser yn addawol, ond nid yw’r dystiolaeth yn ddigonol i gefnogi ei fabwysiadu fel mater o drefn.
Mae’r defnydd o ffotobiofodyliad laser lefel isel yn lleihau nifer yr achosion o fwcositis y geg o’i gymharu â gofal ffug neu ofal safonol, ond cyfyngedig yw’r dystiolaeth ynglŷn ag effeithiolrwydd clinigol ffotobiofodyliad deuod allyrru golau (LED).
Mae dadansoddiadau economaidd HTW yn dangos nad yw ffotobiofodyliad laser yn gost effeithiol o’i gymharu â gofal safonol. Y prif ysgogwr y tu ôl i’r dadansoddiad cost effeithiolrwydd cymharol yw costau staffio. Felly, ni ellir cefnogi mabwysiadu ffotobiofodyliad laser fel mater o drefn.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Mae mwcositis y geg yn sgil effaith gyffredin triniaeth canser, ac yn aml gall gael effaith ddifrifol ar ansawdd bywyd unigolyn. Gall symptomau amrywio o rai ysgafn i rai difrifol ac maent yn cynnwys mân anghysur, anawsterau gyda lleferydd, wlserau, poen difrifol ac anallu i fwyta bwyd solet. Roedd yr opsiynau triniaeth presennol i reoli mwcositis y geg yn cynnwys hylendid y geg, hydradiad da, osgoi bwydydd a diodydd sy’n achosi llid, a chyffuriau lladd poen. Mewn achosion o haint dilynol, gellir defnyddio gwrthfiotigau hefyd. Technoleg anfewnwthiol a ddelir yn y llaw yw ffotobiofodyliad sydd â’r nod o atal neu drin mwcositis y geg drwy ysgogi iachâd, lleihau llid a chynyddu metaboledd cellog. Ar adeg paratoi’r canllaw hwn, mae dau fath o ffotobiofodyliad ar gael: ffotobiofodyliad laser lefel isel a ffotobiofodyliad deuod allyrru golau (LED).
Crynodeb mewn iaith glir
Mae canserau’n cael eu trin yn fwyaf cyffredin gan ddefnyddio radiotherapi neu gemotherapi. Gall fod sgileffeithiau i’r ddwy driniaeth. Mae mwcositis y geg yn sgil effaith gyffredin ar gyfer radiotherapi a chemotherapi. Gall arwyddion a symptomau gynnwys:
- Ceg a deintgig coch, sgleiniog neu chwyddedig
- Gwaed yn y geg
- Doluriau yn y geg, gan gynnwys ar y deintgig neu’r tafod
- Dolur neu boen yn y geg neu’r gwddf
- Trafferth i lyncu neu siarad
- Teimlad o sychder, llosgi ysgafn neu boen wrth fwyta bwyd
Gall hyn fod yn anghyfforddus ac efallai y bydd y briwiau yn boenus. Os yw’n ddifrifol gall olygu gorfod atal y driniaeth canser dros dro, neu leihau’r dosau.
Mae ffotobiofodyliad yn weithdrefn anfewnwthiol sy’n hybu iachâd y croen. Mae’r ddyfais a ddelir yn y llaw yn rhoi golau pŵer isel, coch neu bron yn isgoch. Gall y golau ysgogi, gwella, adfywio a diogelu meinwe. Mae yna lawer o wahanol fathau o ddyfeisiau ffotobiofodyliad y gellir eu defnyddio y tu mewn a’r tu allan i’r geg.
Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ynglŷn ag effeithiolrwydd clinigol ac o ran cost ffotobiofodyliad ar gyfer atal neu drin mwcositis y geg ymhlith pobl sydd â chanser.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER322 02.2022
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR044 10.2022
Arweiniad
GUI044 10.2022
Access our guidance
Our advice documents are free to download, but we would be grateful if you could help us improve our services by telling us why you are looking at our advice and how you intend to use it.