Therapi tynnu sylw realiti rhithwir
Topic Status Complete
Therapi realiti rhithwir er mwyn rheoli poen cysylltiedig â gweithdrefn.
Canlyniad yr arfarniad
Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu’n rhannol ymyriadau realiti rhithwir (VR) ar gyfer rheoli poen a phryder ymhlith oedolion a phlant sy’n cael gweithdrefnau meddygol, ond nid yw’r dystiolaeth yn ddigonol i gefnogi mabwysiadu fel mater o drefn.
Mae defnyddio VR yn lleihau poen a phryder sy’n gysylltiedig ag ystod o weithdrefnau meddygol o’i gymharu â gofal safonol ac mae’n cael ei oddef yn dda.
Er bod potensial i arbed costau drwy leihau’r defnydd o boenleddfwyr, tawelyddion neu anesthesia, mae’r dystiolaeth i gefnogi hyn yn gyfyngedig ar hyn o bryd. Byddai HTW yn annog casglu rhagor o dystiolaeth i ddiffinio effaith economaidd a chlinigol realiti rhithwir yn fwy manwl.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Mae rheoli poen yn ystod gweithdrefnau meddygol yn hollbwysig i optimeiddio profiad y claf. Mae gweithdrefnau meddygol cyffredin sy’n gofyn am reoli poen yn cynnwys gofal clwyfau, newid gorchuddion, therapi corfforol ar gyfer llosgiadau, triniaeth ddeintyddol, cemotherapi, mynediad mewnwythiennol (IV), a geni plant. Defnyddir dulliau ffarmacolegol yn aml i leihau poen yn ystod gweithdrefnau, ond gall fod anfanteision sylweddol i’r rhain, gan gynnwys titradiad anfanwl, cyfnodau therapiwtig byr, sgîl-effeithiau andwyol, costau uchel a’r potensial ar gyfer camddefnyddio cyffuriau.
Gall therapi tynnu sylw, gan ddefnyddio ymyriadau realiti rhithwir (VR), roi dull amgen ar gyfer rheoli poen yn ystod gweithdrefnau. Mae VR yn trochi pobl mewn amgylchedd 3 dimensiwn artiffisial drwy ysgogiadau synhwyraidd, sy’n cynnwys rhai gweledol, clywedol ac, yn aml, cyffyrddol. Gallai’r trochi hwn, weithiau ynghyd â’r posibilrwydd o archwilio amgylcheddau rhithwir, gynorthwyo i symud sylw oddi wrth unrhyw boen a brofir.
Crynodeb mewn iaith glir
Mae gweithdrefn feddygol yn ddull gweithredu sydd â’r bwriad o sicrhau canlyniad mewn darpariaeth gofal iechyd. Gall hyn gynnwys profion, sganiau, archwiliadau a thriniaethau. Gall cynnal rhai gweithdrefnau meddygol gynnwys profiad o boen. I rai, gall rhagweld yn ogystal â’r broses o gynnal gweithdrefnau meddygol achosi pryder a thrallod yn ogystal â phoen. Rheolir poen fel arfer gyda meddyginiaeth. Mae gweithdrefnau meddygol cyffredin sy’n gofyn am reoli poen yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i, ofal clwyfau, newid gorchuddion a therapi corfforol ar gyfer llosgiadau, triniaeth ddeintyddol, cemotherapi, mynediad mewnwythiennol (IV) a geni plant. Er y gall meddyginiaeth lleddfu poen fod yn ddefnyddiol ac, os caiff ei gweinyddu’n iawn, fod yn gwbl ddiogel, mae rhai anfanteision. Gall y rhain gynnwys cymryd y swm anghywir o feddyginiaeth, effeithiau meddyginiaeth sy’n para am gyfnod byr yn unig, sgîl-effeithiau andwyol, costau uchel a’r posibilrwydd o gamddefnyddio cyffuriau.
Dewis arall poblogaidd yn lle defnyddio meddyginiaeth i reoli poen yw ceisio tynnu sylw’r person oddi wrth y boen y mae’n ei deimlo. Gall tynnu sylw fod ar sawl ffurf, gan gynnwys darllen llyfrau, gwylio ffilmiau, gwrando ar gerddoriaeth a defnyddio realiti rhithwir.
Efelychiad o amgylchedd a gynhyrchir gan gyfrifiadur yw realiti rhithwir. Mae llun o amgylchedd a ddewiswyd yn cael ei arddangos drwy set pen neu sbectol. Gellir rhyngweithio â’r amgylchedd, gan ganiatáu i’r defnyddiwr deimlo fel pe bai yno mewn gwirionedd. Mae’r defnydd o realiti rhithwir eisoes wedi’i ddefnyddio mewn meysydd gofal iechyd, gan gynnwys helpu i drin ffobiâu ac anhwylderau pryder.
Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth y gellir defnyddio realiti rhithwir i reoli poen sy’n gysylltiedig â gweithdrefnau meddygol. Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu’n rhannol ymyriadau realiti rhithwir ar gyfer rheoli poen a phryder ymhlith oedolion a phlant sy’n cael gweithdrefnau meddygol, ond nid yw’r dystiolaeth yn ddigonol i gefnogi mabwysiadu fel mater o drefn.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER098 05.2020
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR017-2 09.2022
Arweiniad
GUI017 10.2022
Mae hwn yn fersiwn wedi’i ddiweddaru o arfarniad a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mis Mai 2020. Gallwch gael y dogfennau ategol o arfarniadau blaenorol gan HTW os gofynnwch.