Therapi ymbelydredd mewnol detholus

Statws Testun Cyflawn

Therapi ymbelydredd mewnol detholus ar gyfer canser metastatig y colon a’r rhefr

Crynodeb

 

Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar therapi ymbelydredd mewnol detholus fel triniaeth ar gyfer oedolion sydd â chanser y colon a’r rhefr sydd wedi mynd i’r afu, ac sydd ddim yn gallu cael ei drin yn llwyddiannus gyda chemotherapi neu lawdriniaeth yn unig. Yn seiliedig ar archwiliad cychwynnol o’r pwnc, penderfynodd Grŵp Asesu HTW i beidio â symud y pwnc hwn ymlaen i gael ei arfarnu’n llawn.