Uwch ymarferwyr parafeddygol

Statws Testun Cyflawn

Uwch ymarferwyr parafeddygol i asesu a thrin argyfyngau meddygol

Canlyniad yr arfarniad

 

Mae’r defnydd o ymarferwyr parafeddygol uwch mewn gofal brys cyn-ysbyty yn addawol, ond ar hyn o bryd nid oes digon o dystiolaeth i gefnogi mabwysiadu hyn fel mater o drefn.

Prin yw’r dystiolaeth gymharol gyda gofal safonol sydd ar gael ac mae’r ystod eang o rolau a chymwyseddau ymarferwyr cyn-ysbyty sydd wedi’u cynnwys yn yr astudiaethau cyhoeddedig yn cyfyngu ar sicrwydd y dystiolaeth hon. Nid yw asesiad llawn o gost effeithiolrwydd yn bosibl ar sail y dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd.

Mae HTW yn argymell ymchwil pellach, gan ddefnyddio dulliau seiliedig ar systemau i ddadansoddi data sydd ar gael ar hyn o bryd yng Nghymru, ac ymgorffori canlyniadau cleifion a sefydliadol mewn astudiaethau cymharol yn y dyfodol. Argymhellir hefyd ymchwil pellach i fynd i’r afael â chostau a chost-effeithiolrwydd sy’n gysylltiedig â defnyddio ymarferwyr parafeddygol uwch mewn gofal brys.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Ar adegau o alw mawr, mae ambiwlansys yn aml yn cael eu hoedi wrth gludo cleifion i adrannau brys ysbytai prysur. Gall rhai pobl sy’n cysylltu â’r gwasanaethau brys dderbyn y gofal sydd ei angen arnynt mewn lleoliadau cymunedol. Parafeddygon gyda hyfforddiant ôl-raddedig estynedig yw ymarferwyr parafeddygol uwch sy’n caniatáu iddynt wneud penderfyniadau clinigol mwy annibynnol yn y gymuned na pharafeddygon â chymwyseddau safonol. Gallant hefyd gario offer a meddyginiaethau ychwanegol i ofalu am gleifion. Awgrymwyd y gallai defnyddio ymarferwyr parafeddygol uwch yng Nghymru leihau nifer y bobl sy’n mynd i’r ysbyty a chynyddu’r nifer sy’n gallu cael gofal priodol yn y gymuned yn ddiogel.

Awgrymwyd y pwnc hwn gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST).

Crynodeb mewn iaith glir

 

Gall pobl sydd angen gofal brys ffonio am help y gwasanaeth ambiwlans. Mae staff ambiwlans, a elwir yn barafeddygon, yn darparu gofal arbenigol i gleifion sydd wedi bod mewn damweiniau, argyfyngau neu achosion brys eraill. Gall hyn gynnwys cynnal asesiadau, rhoi gofal achub bywyd a gwneud penderfyniadau. Mae gofal fel arfer, ond nid bob amser, yn golygu y cludir y person i’r ysbyty i gael triniaeth bellach.

Parafeddygon sydd wedi cael hyfforddiant ychwanegol yw ymarferwyr parafeddygol uwch. Gallant gario offer ychwanegol, mynychu digwyddiadau mwy cymhleth ac efallai y gallant wneud penderfyniadau mwy effeithiol, megis atgyfeirio rhywun i ofal sylfaenol. Gall hyn helpu i leihau nifer y bobl y mae angen mynd â nhw i’r ysbyty a golygu bod mwy o ambiwlansys ar gael ar gyfer galwadau eraill.

Canllaw

GUI059 07.2024

GUI

Adroddiad Gwerthuso Tystiolaeth

EAR059 07.2024

Adroddiad Archwilio Pwnc

TER481 11.2023 (superseded by EAR059 07.2024)