Rhaglen gymorth i ofalwyr pobl â dementia yn cael ei hargymell i’w defnyddio yng Nghymru
Mae rhaglen cymorth seicolegol sydd â’r nod o leihau iselder ymhlith gofalwyr cleifion dementia wedi cael ei hargymell i gael ei defnyddio yng Nghymru.
Dangoswyd bod START (STrAtegies for RelaTives), rhaglen wyth wythnos o gymorth seicolegol, yn gwella ansawdd bywyd ac yn lleihau iselder ymhlith y rheini sy’n gofalu am bobl â dementia.
Mae’r rhaglen START yn cynnig sesiynau ar strategaethau ymdopi, cynllunio ar gyfer y dyfodol, technegau ar gyfer rheoli ymddygiad, hunanofal ac addysg am ddementia, a gellir eu teilwra i weddu i anghenion gofalwyr.
Canfu ymchwilwyr yn Technoleg Iechyd Cymru (HTW) a asesodd y dystiolaeth i gefnogi’r rhaglen, ei bod yn effeithiol ac yn gost-effeithiol, a’i bod yn cael effaith hirdymor ar les gofalwyr. Daethant i’r casgliad y dylai fod ar gael i holl ofalwyr pobl â dementia yng Nghymru.
Gan ei bod bellach wedi cael ei hargymell i’w defnyddio ar draws Cymru, gallai gynnig cymorth mawr ei angen i ofalwyr di-dâl sydd, yn ôl ymchwil, yn fwy tebygol o ddioddef o bryder ac iselder oherwydd y pwysau o ofalu am rywun annwyl iddynt sydd â dementia.
Yn ystod y broses arfarnu, gweithiodd HTW yn agos gyda Cymdeithas Alzheimer’s i gasglu barn a phrofiadau pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr, drwy gynnal grwpiau ffocws ac anfon holiaduron at y rheini yr effeithir arnynt yn y gymuned ehangach.
Tynnodd hyn sylw at y baich sydd yn cael ei roi ar iechyd meddwl a lles pobl sy’n gofalu am rywun â dementia, ac at yr heriau ychwanegol sydd wedi cael eu creu drwy gael llai o gymorth yn ystod y pandemig.
Meddai Lisa Trigg, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil, Data a Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru:
“Mae ‘na fyddin o ofalwyr yng Nghymru sydd angen ein cefnogaeth. Mae gofalwyr pobl sydd â dementia yn aml yn profi unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, a galali hyn arwain at heriau iechyd meddwl sylweddol. Mae darparu cymorth seicolegol i ofalwyr yn cyflwyno manteision gwirioneddol yn y tymor byr a’r tymor hir. Rydym wrth ein bodd y gallai hyn fod ar gael i ofalwyr yng Nghymru ar ffurf y rhaglen START.”
Ychwanegodd Peter Groves, Cadeirydd Technoleg Iechyd Cymru:
“Dysgodd Technoleg Iechyd Cymru am y pwysau sylweddol sy’n cael eu rhoi ar ofalwyr pobl â dementia, a’r pwysigrwydd o ddarparu mesurau cymorth effeithiol i gynnal neu adfer eu lles. Daeth yr arfarniad hwn i’r casgliad bod tystiolaeth dda bod y rhaglen START yn gwneud yr union beth hynny, a bod y manteision o leihau iselder a gwella ansawdd bywyd gofalwyr yn parhau ymhell ar ôl i’r rhaglen ffurfiol ddod i ben. Rydym yn argymell y dylai’r rhaglen START fod ar gael i bobl yng Nghymru, ac yn dod i’r casgliad y bydd hyn nid yn unig yn darparu manteision pwysig i ofalwyr, ond y bydd yn ddefnydd effeithiol o adnoddau hefyd.”