Newyddion

23 Hydref, 2023

Rhwydwaith ymyrraeth gofal cymdeithasol rhyngwladol yn gwahodd cyfarwyddwr HTW i ymuno â’i fwrdd

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru, wedi cael ei phenodi i fwrdd cyfarwyddwyr INSIA – y Rhwydwaith Rhyngwladol ar gyfer Asesu Ymyrraeth Gymdeithasol.

 

Mae INSIA yn rhwydwaith o sefydliadau rhyngwladol, sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo’r defnydd o ymyriadau gofal cymdeithasol yn seiliedig ar wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth. Ei nod yw gwella bywydau pobl, drwy hyrwyddo’r defnydd o ymyriadau gofal cymdeithasol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

 

Trwy ymuno â bwrdd cyfarwyddwyr INSIA, mae Dr Susan Myles yn atgyfnerthu ymrwymiad HTW i nodi ac arfarnu technolegau a modelau gofal arloesol i gefnogi’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.

 

Sefydlodd HTW bartneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru yn 2021, a arweiniodd at gyhoeddi Cynllun Gweithredu Gofal Cymdeithasol, yn nodi sut i addasu proses arfarnu pynciau HTW ar gyfer y sector gofal cymdeithasol.  Drwy’r bartneriaeth, mae’r ddau sefydliad wedi rhannu arbenigedd ynghylch sut y gall HTW ymgysylltu’n well ag anghenion y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru a’u diwallu. Maen nhw hefyd wedi dod at ei gilydd i gynnal cyfres o weithdai a digwyddiadau bwrdd crwn, ac ymgyrch yn galw am awgrymiadau o dechnolegau gofal cymdeithasol a modelau gofal a chymorth.

 

Cyhoeddodd HTW ei ddarn cyntaf o ganllawiau gofal cymdeithasol yn 2021 ar START – rhaglen cymorth seicolegol ar gyfer gofalwyr pobl â dementia.

 

Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd Dr Susan Myles: “Rwy’n falch iawn fy mod i wedi ymuno â’r rhwydwaith rhyngwladol mawreddog hwn o sefydliadau sy’n gweithio i hyrwyddo a chefnogi penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar ymyriadau gofal cymdeithasol.

 

“Bydd hyn yn gyfle pwysig i rannu arbenigedd a mewnwelediad ar yr ymyriadau sydd â’r potensial mwyaf i gefnogi pobl sy’n derbyn cymorth gofal cymdeithasol.”

 

Mae croeso i unrhyw un awgrymu technoleg gofal cymdeithasol neu fodel o ofal neu gymorth y gallai HTW ei arfarnu. I gymryd rhan, ewch i’r dudalen Awgrymu Pwnc ar wefan HTW.