Rydym yn hysbysebu am swyddi!
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ddau Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd i ymuno â’n tîm yn Technoleg Iechyd Cymru (HTW), sy’n cael ei letya gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre o fewn GIG Cymru.
Rydym eisiau recriwtio dau Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd fel rhan o’n gwaith ar gyfer Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru
O dan gyfarwyddyd yr Uwch Ymchwilwyr Gwasanaethau Iechyd a Chyfarwyddwr HTW, bydd deiliaid y swyddi yn cynnal adolygiadau tystiolaeth o hyd a chymhlethdod amrywiol, o grynhoi canfyddiadau ymchwil yn gyflym i gynnal adolygiadau tystiolaeth mwy trylwyr a chyfuno’r canfyddiadau. Gan gydweithio ag arbenigwyr yn y maes ac mewn pwyllgorau gwneud penderfyniadau, bydd deiliaid y swyddi yn hwyluso’r broses o wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru ar ystod eang o bynciau iechyd a gofal. Bydd deiliaid y swyddi yn
canolbwyntio ar waith HTW sy’n cefnogi ymateb COVID-19 yng Nghymru, maes lle mae ein hadolygiadau tystiolaeth blaenorol wedi llywio’r broses o lunio polisïau Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol. Bydd deiliaid y swyddi yn cyfrannu at waith ehangach HTW hefyd o asesu’r defnydd sy’n seiliedig ar dystiolaeth o dechnolegau iechyd nad ydynt yn feddyginiaethau yn ôl yr angen.
Mae’r swyddi cyfnod penodol hyn yn cael eu hariannu ar hyn o bryd tan 31 Mawrth 2023, ond rydym yn rhagweld y bydd y cyllid yn cael ei ymestyn. Mae’r cyfleoedd hyn ar gael ar sail secondiad hefyd, a bydd y posibiliad o weithio’n rhan-amser yn cael ei ystyried. I wneud cais am y swyddi hyn ar secondiad, mae’n rhaid i chi gael cymeradwyaeth gan eich rheolwr llinell presennol, cyn cyflwyno cais.
Yn ogystal â chael gradd a gwybodaeth briodol o chwilio am lenyddiaeth i ddod o hyd i dystiolaeth, bydd gennych brofiad o werthuso tystiolaeth yn feirniadol a chyfleu eich canfyddiadau i randdeiliaid iechyd a gofal.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Nodwch yn garedig ar eich cais a fyddai gennych ddiddordeb mewn cael eich ystyried ar gyfer y swyddi hyn ar sail cyfnod penodol neu secondiad.
Dyddiad Cau: 05/06/22
Cliciwch yma i weld yr hysbyseb i gael gwybodaeth lawn am y swydd: http://jobs.velindre-tr.wales.nhs.uk/job/v4156962