Technoleg Iechyd Cymru yn chwilio am awgrymiadau ar gyfer technolegau arloesol sy’n trawsnewid gofal
Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn chwilio am syniadau gan bobl ar draws maes iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn gwella ansawdd gofal yng Nghymru.
Yn ein rôl fel corff cenedlaethol annibynnol, rydym yn cynnal ‘galwad agored am bynciau’ er mwyn casglu awgrymiadau am dechnolegau arloesol nad ydynt yn feddyginiaethau a all wneud gwahaniaeth i bobl yng Nghymru.
Mae tîm a phwyllgorau HTW yn ymchwilio’r dystiolaeth orau sydd ar gael ac yn ei defnyddio i arfarnu effeithiolrwydd clinigol ac o ran cost technolegau iechyd nad sy’n feddyginiaethau. Yna cyhoeddir canllaw wedi’i lywio gan dystiolaeth ar ddefnydd y technolegau i wneuthurwyr penderfyniadau yng Nghymru er mwyn bod o fudd i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth a’r gwasanaethau eu hunain.
“Rydym yn awyddus i ymateb i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn annog awgrymiadau y gellir eu datblygu ar gyfer defnydd ehangach ac sy’n drawsnewidiol”, meddai’r Athro Peter Groves, Cadeirydd HTW.
“Gall unrhyw un awgrymu pwnc drwy ddefnyddio ffurflen syml ar ein gwefan. Boed eich bod yn gomisiynydd gofal, yn ddarparwr gofal rheng flaen, claf neu’n aelod o’r cyhoedd – rydym yn eich annog i awgrymu technolegau arloesol yn ymwneud ag unrhyw elfen o iechyd a gofal cymdeithasol.
“Mae’r gwaith hwn yn allweddol ar gyfer ein rhaglen waith 2021, sy’n cefnogi dull strategol a chenedlaethol ar gyfer nodi, arfarnu a mabwysiadau technolegau arloesol mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.”
Gall technolegau nad sy’n feddyginiaethau gynnwys (ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i); dyfeisiau a phrofion diagnostig, mewnblaniadau, gweithdrefnau llawfeddygol, therapïau seicolegol a newidiadau mewn llwybrau triniaeth.
Gall awgrymiadau hefyd adlewyrchu meysydd blaenoriaeth Llywodraeth Cymru fel yr amlinellir yn ‘’ – y cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Gwyliwch y fideo esboniadol hwn ar ffurf animeiddiad a ewch i’n gwefan i awgrymu pwnc.