Technoleg Iechyd Cymru yn cydweithio gyda sefydliadau rhyngwladol i ysgrifennu datganiad sefyllfa ynghylch cynnwys cleifion
Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) wedi ymuno ag asiantaethau asesu technoleg iechyd ar draws y byd i ysgrifennu datganiad sefyllfa ar Gynnwys Cleifion mewn Asesu Technoleg Iechyd (HTA) ar gyfer INAHTA (International Network of Agencies for Health Technology Assessment)
Mae HTW wedi bod yn cydweithio gydag aelodau eraill INAHTA i lunio’r ail ddatganiad sefyllfa, sy’n ceisio adlewyrchu barnau’r sefydliad ar rôl werthfawr cynnwys cleifion mewn asesu technoleg iechyd.
Mae HTW yn gweithio’n galed i sicrhau bod grwpiau cleifion a’r rheini a allai gael eu heffeithio’n uniongyrchol gan ganlyniad HTA yn rhan o’r broses arfarnu.
Mae Grŵp Sefydlog Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd HTW dan arweiniad Swyddog Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd HTW, Alice Evans, yn rhoi cyfarwyddyd ac arweiniad, i sicrhau bod HTW yn cyflawni materion cynnwys y cyhoedd a’r cleifion effeithiol drwy gydol ei waith.
Dywedodd Susan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod wedi cydweithio ag INAHTA ar greu’r datganiad sefyllfa hwn, sy’n adlewyrchu’r gwerth uchel iawn rydym yn ei roi ar bwysigrwydd cynnwys cleifion yn y broses asesu technoleg iechyd.”
Dywedodd Peter Groves, Cadeirydd HTW: “Rydym o’r farn bod cynnwys cleifion yn rhan annatod o effeithiolrwydd a pherthnasedd y gwaith rydym yn ei wneud yn Technoleg Iechyd Cymru. Rwy’n arbennig o falch felly, ein bod ni wedi gallu cydweithio â sefydliadau rhyngwladol eraill i baratoi’r datganiad sefyllfa pwysig hwn, sy’n ailddatgan gwerth gwrando ar brofiadau a safbwyntiau’r rheini sydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan ein hargymhellion.”
Ychwanegodd Alice Evans: “Drwy wrando ar farn, safbwyntiau a phrofiadau’r rheini sy’n defnyddio gwasanaethau gofal, gallwn gael cipolwg gwerthfawr ar effaith bosibl y technolegau iechyd rydym yn eu hasesu. Ein nod yw gwella gofal iechyd i gleifion yng Nghymru, ac mae angen eu mewnbwn arnom i sicrhau bod y nod hwn yn cael ei gyflawni.”
Mae datganiad sefyllfa INAHTA yn nodi bod gan gleifion hawl i fod yn rhan o’r broses HTA, gan y gallai canlyniad yr asesiad effeithio arnynt yn uniongyrchol. Mae’n mynd ymlaen i ddweud y bydd nodi’r hyn sy’n bwysig i gleifion yn sicrhau bod allbynnau HTA yn fwy ymatebol i anghenion gofal iechyd a nodau gofal iechyd ehangach cymdeithas. Yn ôl INAHTA, gall cynnwys cleifion mewn HTA wella ansawdd yr asesiad, a chefnogi gwneud penderfyniadau.
Mae HTW a PPISG yn croesawu cyhoeddi Datganiad Sefyllfa diweddaraf INAHTA ar Gynnwys Cleifion, ac yn dathlu’r cyfle i weithio gyda’r gymuned INAHTA ar y datganiad hwn, y mae’n gobeithio y bydd yn cefnogi ymgysylltiad cleifion a gofalwyr mewn prosesau HTA.