Technoleg Iechyd Cymru yn cyhoeddi adolygiad o dystiolaeth ar ddiagnosio COVID-19
Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) wedi cynnal adolygiad mawr cyntaf o dystiolaeth am effeithiolrwydd profion i ganfod presenoldeb y feirws SARS-CoV-2 neu wrthgyrff i SARS-CoV-2, er mwyn helpu i ddiagnosio COVID-19.
Mae’r adolygiad hwn yn gosod y cyd-destun ar gyfer y sawl sy’n gwneud penderfyniadau yn Llywodraeth Cymru, ac ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol. Ei nod yw cynorthwyo eu hymateb i’r pandemig COVID-19, a hwyluso penderfyniadau ar sail tystiolaeth.
Mae HTW wedi cyhoeddi adroddiad yn seiliedig ar y dystiolaeth gyhoeddedig sydd ar gael hyd yma. Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad yn llawn.
Bydd yr adroddiad yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd, a bydd HTW yn cadw golwg barhaus am dystiolaeth newydd. Bydd hyn yn sicrhau bod y sawl sy’n gwneud penderfyniadau yn ymwybodol o’r dystiolaeth orau sydd ar gael, i lywio’r ymateb parhaus i COVID-19.