Newyddion

06 Hydref, 2020

Technoleg Iechyd Cymru yn cyhoeddi Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol newydd ar gyfer arloeswyr ym maes technoleg iechyd – HTW SAS

A graphic of the logo for the HTW Scientific Advice Service

Mae arloeswyr technoleg iechyd yn gallu gwella eu llwybr i’r farchnad gyda chymorth Technoleg Iechyd Cymru (HTW), y sefydliad annibynnol a chenedlaethol sydd wedi cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i arfarnu technolegau nad ydynt yn feddyginiaeth yng Nghymru.

Rydym wedi lansio Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol HTW newydd, sef gwasanaeth ymgynghorol i gefnogi arloeswyr ym maes technoleg iechyd yng Nghymru. Mae’n cynorthwyo arloeswyr i ddatblygu tystiolaeth a dangos gwerth sy’n ateb anghenion comisiynwyr gofal, darparwyr gofal, cleifion a defnyddwyr gwasanaethau.

Mae Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol HTW yn wasanaeth am ddim, sy’n cael ei gynnig ar gyfraddau cystadleuol iawn mewn ymdrech i wella iechyd pobl yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth ar gael ar gyfer arloeswyr o bob maint; o unigolion a chwmnïau sydd newydd ddechrau, i adrannau ymchwil, melinau trafod a chwmnïau rhyngwladol mawr.

Meddai Matthew Prettyjohns, ein Prif Ymchwilydd: “Rydyn ni’n falch iawn o allu dechrau darparu Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol HTW i arloeswyr. Rydym yn gwybod, drwy siarad â datblygwyr Tech, bod hwn yn faes lle buasent yn gwerthfawrogi mwy o gefnogaeth.

“Ein nod yw cefnogi arloeswyr i oresgyn rhwystrau i gael mynediad i’r farchnad, drwy eu helpu i gynhyrchu tystiolaeth, nodi bylchau mewn tystiolaeth, a chymryd y camau nesaf i gyflwyno technoleg i’r farchnad. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol i gwmnïau ar wahanol gamau yn eu datblygiad. Yn bwysig iawn, bydd ein cyfraniad yn eu helpu i arbed amser ac adnoddau hefyd.

“Gall ein gwasanaeth annibynnol wneud gwahaniaeth mawr, drwy ddarparu arbenigedd ymchwil o ansawdd uchel. Bydd yn sicrhau bod iechyd a gofal yn fwy effeithiol ac yn seiliedig ar dystiolaeth, ac o fudd i bobl yng Nghymru.”

Mae Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol HTW yn addas ar gyfer ystod o dechnolegau iechyd nad ydynt yn feddyginiaethau, fel dyfeisiau meddygol, diagnosteg, gweithdrefnau ac ati.

Rydym yn defnyddio Offeryn META (Medtech Early Technical Assessment Tool) y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), sef fframwaith strwythuredig ar-lein, i ddarparu Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol HTW.

Cliciwch yma i gychwyn: Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol HTW.