Technoleg Iechyd Cymru yn cynnig cymorth ymchwil mewn ymateb i COVID-19
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi’r ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19).
Rydym yn gwahodd cwestiynau ymchwil sy’n berthnasol i COVID-19, adolygiadau o dystiolaeth, a cheisiadau am gymorth economeg.
Mae sefydliadau sy’n ymwneud ag Asesiadau Technoleg Iechyd (HTA), canllawiau a modelu economaidd hefyd yn cael eu gwahodd i gydweithio ac i rannu adnoddau gyda ni.
Dywedodd Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru: “Rydym yn croesawu cyfleoedd i gydweithio gyda sefydliadau sy’n gymheiriaid, ac rydym eisoes yn siarad â chyrff HTA eraill am sut y gallwn gydweithio. Wrth i ni ymateb i’r sefyllfa COVID-19 sy’n newid yn gyflym, mae’n hanfodol ein bod ni’n rhannu gwybodaeth gyda gwneuthurwyr penderfyniadau cyn gynted â phosib”
Mae tudalen we bwrpasol wedi cael ei lansio i roi manylion ar weithgareddau Technoleg Iechyd Cymru, a gall ymwelwyr gael gafael ar wybodaeth yn: www.healthtechnology.wales/covid-19
Rydym yn gallu darparu’r canlynol hefyd:
- Crynodebau o dystiolaeth cyflym mewn perthynas â’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg ar gyfer diagnosteg a therapiwteg COVID-19
- Cyngor AM DDIM i ddatblygwyr technoleg a chwmnïau sy’n datblygu therapiwteg a diagnosteg mewn perthynas â COVID-19, gan gynnwys cyngor ar gasglu tystiolaeth, cynhyrchu tystiolaeth a modelu economaidd.
Rydym wedi rhoi rhestr o wefannau at ei gilydd hefyd, sydd yn casglu neu’n cyfuno’r dystiolaeth sy’n gysylltiedig â COVID-19. Bydd y canllaw cyflym hwn yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd.
Rhagor o wybodaeth am y coronafeirws (COVID-19):