Newyddion

30 Mai, 2019

Technoleg Iechyd Cymru yn Gyrchwr Data cymeradwy ar gyfer adnodd HealthTech Connect newydd NICE

NICE has launched HealthTech Connect

Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn Gyrchwr Data cymeradwy ar gyfer adnodd HealthTech Connect, adnodd ar-lein NICE sydd newydd ei lansio.

Mae’r adnodd ar-lein diogel yn helpu i ganfod a chefnogi technolegau iechyd newydd wrth iddynt symud o’r cam cyntaf i gael eu mabwysiadu yn systemau iechyd a gofal y DU.

Datblygodd ystod o sefydliadau partner HealthTech Connect ar gyfer technolegau iechyd (dyfeisiau meddygol, diagnosteg a thechnolegau iechyd digidol) sy’n

  • cynnig manteision mesuradwy i gleifion (neu ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal eraill) o’i gymharu â’r technolegau a ddefnyddir mewn arferion rheolaidd presennol yn y DU, neu
  • sy’n darparu manteision mesuradwy i system iechyd a gofal y DU o’i gymharu â’r technolegau a ddefnyddir mewn arferion rheolaidd presennol yn y DU.

Gall cwmnïau gofrestru eu technoleg iechyd ar HealthTech Connect am ddim. Drwy gofrestru, gall cwmnïau ddysgu pa wybodaeth sydd ei hangen gan wneuthurwyr penderfyniadau, ac egluro’r ffyrdd posibl o gael mynediad i’r farchnad. Bydd cofrestru technolegau newydd yn helpu systemau gofal i gynllunio’n well hefyd ar gyfer mabwysiadu technolegau newydd.

Ar ôl cofrestru, gall cwmnïau gofrestru a diweddaru gwybodaeth am eu technoleg ar www.healthtechconnect.org.uk. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i nodi a yw’r dechnoleg yn addas i’w gwerthuso gan raglen asesu technoleg iechyd y DU, fel Technoleg Iechyd  Cymru. Bydd hyn yn golygu na fydd cwmnïau yn gorfod darparu’r un wybodaeth am eu technoleg ar wahân i wahanol sefydliadau neu raglenni asesu technoleg.

Meddai Meindert Boysen, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Gwerthuso Technoleg Iechyd yn NICE: “Mae HealthTech Connect yn bwynt mynediad clir a syml i gwmnïau sy’n datblygu technolegau iechyd, boed yn ddyfeisiau meddygol, diagnosteg neu dechnolegau iechyd digidol, i gael gafael ar gymorth a llwybrau posibl i raglenni gwerthuso cenedlaethol.

“Yn y pen draw, nod HealthTech Connect yw helpu i gael technolegau iechyd newydd addawol i’r bobl a fydd yn elwa ohonynt, yn fwy cyflym. Rydym yn disgwyl i’r adnodd gyfrannu at leihau’r cymhlethdod, ac yn aml, y dyblygu, sy’n ymwneud â mabwysiadu dyfeisiau meddygol, diagnosteg a thechnolegau iechyd digidol yn y DU.”

Ers lansiad “meddal” cychwynnol y system ym mis Chwefror, mae dros 100 o gwmnïau wedi cofrestru i ddefnyddio HealthTech Connect, mae 13 o dechnolegau wedi cael eu cyflwyno, ac mae un dechnoleg eisoes wedi cael ei dewis gan NICE ar gyfer Briff Arloesi Medtech.

Meddai Sarah Field, Rheolwr Gwerthiannau’r DU ac Iwerddon ar gyfer Gynesonics: “Roedd y Porth HealthTech Connect yn ffordd wych o gysylltu’r berthynas rhwng ein sefydliad a NICE, a darparodd lwybr cyflym i’n technoleg newydd (y Sonata treatmentii) gael ei gwerthuso. Rwyf yn argymell yn llwyr y dylai sefydliadau masnachol eraill ddefnyddio’r llwybr hwn. Roedd y broses gofrestru yn gyflym ac yn syml. Mae hon yn fenter ddefnyddiol dros ben. ”

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am HealthTech Connect.