Y canllaw a gyhoeddwyd: Croesgysylltu ar y gornbilen (CXL)
Heddiw, mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi Canllaw cenedlaethol ar croesgysylltu ar y gornbilen (CXL).
Fe wnaethom arfarnu effeithiolrwydd clinigol ac effeithiolrwydd cost Croesgysylltu ar y gornbilen i drin oedolion a phlant sydd â’r cyflwr ceratoconws.
Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu croesgysylltu ar y gornbilen (CXL) fel mater o drefn ar gyfer plant ac oedolion sydd â’r cyflwr ceratoconws sy’n gwaethygu. O gymharu â gofal safonol, mae CXL yn arafu gwaethygiad clefyd a gallai wella craffter golwg. Gall hefyd leihau neu oedi’r angen am drawsblaniad cornbilen.
Mae modelu economaidd yn awgrymu bod CXL yn gost effeithiol ar sail budd clinigol cynaledig tybiedig am o leiaf 14 o flynyddoedd.
Mae HTW yn argymell caffael data byd real i gael canlyniadau hirdymor (yn cynnwys mesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion) ymhlith pobl sy’n cael CXL ar gyfer ceratoconws.
Statws ein Canllawi yw y dylai GIG Cymru fabwysiadu’r canllaw hwn, neu gyfiawnhau pam na gafodd y canllaw ei ddilyn. Byddwn yn arfarnu mabwysiadu ac effaith ein Canllaw.
Rydym wedi cyhoeddi Canllaw, Adroddiad Gwerthuso Tystiolaeth (EAR), Adroddiad Archwilio Pwnc a chrynodeb iaith blaen ar gyfer y pwnc hwn. Cliciwch yma i ddarllen am y pwnc hwn.
Mae Panel Arfarnu HTW yn ystyried tystiolaeth arfarnu yng nghyd-destun GIG Cymru, ac yn cynhyrchu Canllawiau HTW. Mae’r panel yn ein helpu i nodi pynciau pwysig, gwerthuso’r nifer sy’n manteisio ar ganllawiau, ac yn hwyluso ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae ganddo gynrychiolaeth amlddisgyblaethol, ar draws Cymru gyfan. Dysgwch fwy am ein Proses Arfarnu.