Newyddion

23 Tachwedd, 2021

< BACK

Y canllaw a gyhoeddwyd: Peptidau natriuretig i gadarnhau a diystyru diagnosis o fethiant aciwt y galon ymhlith oedolion mewn lleoliad adran brys

Heddiw, mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi Peptidau natriuretig i gadarnhau a diystyru diagnosis o fethiant aciwt y galon ymhlith oedolion mewn lleoliad adran brys

Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu fel mater o drefn fesur peptid natriuretig N-terminal pro B-type (NT-proBNP) i gadarnhau a diystyru methiant aciwt y galon ymhlith oedolion sy’n cyrraedd yr adran brys lle bydd amheuaeth clinigol o’r diagnosis hwn.

Gallai ychwanegu mesur NT-proBNP at asesiad cinigol mater o drefn leihau hyd arhosiad yn yr ysbyty a’r gyfradd ail-dderbyn i’r ysbyty.

Dangosodd modelu economeg iechyd mai NT-proBNP i gadarnhau neu ddiystyru methiant aciwt y galon oedd y strategaeth mwyaf cost effeithiol.

Statws ein Canllawi yw y dylai GIG Cymru fabwysiadu’r canllaw hwn, neu gyfiawnhau pam na gafodd y canllaw ei ddilyn. Byddwn yn arfarnu mabwysiadu ac effaith ein Canllaw.

Rydym wedi cyhoeddi Canllaw, Adroddiad Gwerthuso Tystiolaeth (EAR), Adroddiad Archwilio Pwnc a chrynodeb iaith blaen ar gyfer y pwnc hwn.Cliciwch yma i ddarllen am y pwnc hwn.

Mae Panel Arfarnu HTW yn ystyried tystiolaeth arfarnu yng nghyd-destun GIG Cymru, ac yn cynhyrchu Canllawiau HTW. Mae’r panel yn ein helpu i nodi pynciau pwysig, gwerthuso’r nifer sy’n manteisio ar ganllawiau, ac yn hwyluso ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae ganddo gynrychiolaeth amlddisgyblaethol, ar draws Cymru gyfan. Dysgwch fwy am ein Proses Arfarnu.