Y canllaw a gyhoeddwyd: Uwchsain pwynt gofal i ddiagnosio clefyd cerrig bustl
Heddiw, mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi Canllaw cenedlaethol ar uwchsain pwynt gofal i ddiagnosio clefyd cerrig bustl.
Fe wnaethom arfarnu effeithiolrwydd clinigol ac effeithiolrwydd cost uwchsain pwynt gofal i ddiagnosio clefyd cerrig bustl.
Mae’r defnydd o uwchsain pwynt gofal (POCUS) cludadwy i ddiagnosio clefyd cerrig bustl yn dangos addewid, ond nid yw’r dystiolaeth bresennol yn ddigonnol i gefnogi ei fabwysiadu fel mater o drefn.
Mae astudiaethau hyd yma wedi ystyried yn bennaf gywirdeb diagnostig POCUS ond mae ansicrwydd yn dal i fod ynglŷn ag effeithiolrwydd POCUS pan y’i defnyddir ochr yn ochr ag archwiliadau eraill fel rhan o wneud penderfyniadau clinigol.
Oherwydd ansicwydd ynglŷn ag effeithiolrwydd clinigol, yn arbennig amser aros cyn derbyn sgan, ni ellid dod i farn ynglŷn â chanlyniadau economaidd posibl defnyddio POCUS.
Argymhellir ymchwil pellach i ddangos effeithiolrwydd clinigol ac o ran cost POCUS cludadwy mewn lleoliadau gofal brys ac aciwt.
Statws ein Canllawi yw y dylai GIG Cymru fabwysiadu’r canllaw hwn, neu gyfiawnhau pam na gafodd y canllaw ei ddilyn. Byddwn yn arfarnu mabwysiadu ac effaith ein Canllaw.
Rydym wedi cyhoeddi Canllaw, Adroddiad Gwerthuso Tystiolaeth (EAR), Adroddiad Archwilio Pwnc a chrynodeb iaith blaen ar gyfer y pwnc hwn. Cliciwch yma i ddarllen am y pwnc hwn.
Mae Panel Arfarnu HTW yn ystyried tystiolaeth arfarnu yng nghyd-destun GIG Cymru, ac yn cynhyrchu Canllawiau HTW. Mae’r panel yn ein helpu i nodi pynciau pwysig, gwerthuso’r nifer sy’n manteisio ar ganllawiau, ac yn hwyluso ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae ganddo gynrychiolaeth amlddisgyblaethol, ar draws Cymru gyfan. Dysgwch fwy am ein Proses Arfarnu.