Newyddion

18 Chwefror, 2020

Ymunwch â Technoleg Iechyd Cymru yng nghynhadledd Iechyd Yfory

A graphic for the Tomorrow's Health conference

Rydym yn edrych ymlaen at fynychu cynhadledd Iechyd Yfory, y gynhadledd arloesi ddiweddaraf ym maes gofal iechyd.

Bydd y gynhadledd dau ddiwrnod yn cael ei chynnal gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn Venue Cymru, Llandudno ar 25-26 Mawrth 2020.

Disgwylir i fwy na 500 o gynrychiolwyr fod yn bresennol, a fydd yn dod â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal, busnesau a’r byd academaidd at ei gilydd i lunio dyfodol iechyd a gofal yng Nghymru.

Bydd ein tîm yn y gynhadledd am y ddau ddiwrnod, a byddwn yn cynnal sesiwn hefyd ar Asesu a gwerthuso effeithiolrwydd technolegau iechyd newydd. Byddwn yn archwilio’r dulliau allweddol a ddefnyddir wrth gynnal Asesiadau o Dechnolegau Iechyd (HTA), ac yn gwella’r ddealltwriaeth o’r gwerth posibl i ddefnyddwyr gwasanaethau, darparwyr a phartneriaid technolegau.

Bydd y sesiwn yn archwilio sut i fod yn feirniadol ynghylch tystiolaeth glinigol ac economaidd er budd gwneud penderfyniadau ar bolisïau a chomisiynu. Bydd yn egluro hefyd, y dulliau gwerthuso economaidd a ddefnyddir i asesu costeffeithiolrwydd technolegau iechyd a gofal, a sut mae hyn yn galluogi penderfynwyr i wneud y defnydd gorau o adnoddau prin.

Bydd themâu’r sesiwn yn gyfredol, a byddant yn trafod enghreifftiau go iawn o dechnolegau rydym wedi’u harfarnu yn ein rôl fel y corff cenedlaethol sy’n gyfrifol am lunio canllawiau i helpu comisiynwyr gofal i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth.

Sesiwn ‘ flasu ‘ ydy hon ar gyfer ‘Gweithdai Iechyd Cymru ‘, sef cyfres o weithdai rydym yn eu cynnal ar y cyd â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae’r gweithdai’n tanio’r meddwl, a byddant yn addysgu sgiliau trosglwyddadwy i fod yn gymwys i’r gweithle. Byddant yn dychwelyd yn 2020, a bydd y dyddiadau’n cael eu cadarnhau cyn bo hir.

Cofrestrwch nawr

Cliciwch yma i gofrestru nawr ar gyfer eich tocyn am ddim ar gyfer cynhadledd Iechyd Yfory.

Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer ein sesiwn ‘ Asesu a gwerthuso effeithiolrwydd technolegau iechyd newydd.’